Defnyddiwr:Rhyswynne/Fydd y Chwyldro Ddim Ar y Teledu, Gyfaill: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Cerdd a chân gan Ifor ap Glyn a Llwybr Llaethog yw '''''Fydd y Chwyldro Ddim Ar y Teledu, Gyfaill''''', ble mae Ifor, a gy...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 15:05, 3 Tachwedd 2020

Cerdd a chân gan Ifor ap Glyn a Llwybr Llaethog yw Fydd y Chwyldro Ddim Ar y Teledu, Gyfaill, ble mae Ifor, a gyfansoddodd y gerdd, yn ei llefaru i gyfeiliant cerddoriaeth gan Llwybr Llaethog. Mae'n addasiad o The Revolution Will Not Be Televised gan Gil Scott-Heron.

Rhyddhawyd fel cân ochr B ar argraffiad arbennig o record 7 modfedd ar roddwyd am ddim i'r rhai a fynychodd gig Noson Claddu Reu yn Mhontrhydfendigaid yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1992. Maes-e gan Datblygu yw'r gân arall ar y record.

Cefndir

Ar y pryd, roedd Ifor ap Glyn yn gweithio i gwmni cynhyrchu yng Nghaerdydd, ond gan i fod yn byw yng Nghaernarfon, roedd hefyd yn llogi desg yn swyddfa label Ankst ym Mhen-y-groes. Tros baned soniodd wrth X ac Y am ei syniad o drosi The Revolution Will Not Be Televised i'r Gymraeg. Roeddent yn meddwl ei fod yn syniad da, a gofynnwyd iddo ddod a'i gerdd iddynt drannoeth.

Cyfeiriadau diwylliannol

  • "wsnos ar ôl iddo ymddangos ar Sianel 4"
  • Melvyn Bragg, cyflwynydd ar Radio 4.
  • "noddi gan y Cyngor Celfyddyda'"
  • Gwasg Gregynog mewn rhwymiad arbennig o groen aardvark anorecsig.
  • Neil Kinnock gwleidydd o Gymru a fu'n arwain y Blaid Lafur ar lefel Brydeinig
  • Ffilm Cymru
  • Dafydd Hywel
  • John Ogwen
  • Bryn Fôn
  • Sulwyn Thomas
  • Woolworth
  • Dewi Llwyd
  • Angharad Mair
  • Trelai, Penrhys, Glyncoch, Sgubor Goch, a Maesgeirchan - maestrefi ac ystadau tai difreintiedig
  • Mistar Urdd
  • Dechrau Canu Dechrau Canmol
  • Magi a Tush, cymeriadau a oedd yn rhedeg y swyddfa bost ar opera sebon Pobol y Cwm
  • Alan Llwyd
  • Post Prynhawn Wales
  • Wales Today
  • Bwrdd Iaith
  • Huw Chiswell
  • Chas and Dave
  • Margaret Williams,
  • Dennis O'Neill
  • Wyn Roberts
  • The Cryptkeeper Five,
  • label Ankst.
  • Teledu Thames.