Sefydliad Masnach y Byd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion, diweddaru
Tagiau: Golygiad cod 2017
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
Cyfundrefn ryngwladol yw '''Sefydliad Masnach y Byd''' ([[Ffrangeg]]: ''Organisation mondiale du commerce'', OMC; [[Saesneg]]: ''World Trade Organization'', WTO; [[Sbaeneg]]: ''Organización Mundial del Comercio'', OMC) sy'n ymwneud â'r rheolau sy'n rheoli [[masnach ryngwladol]] rhwng gwledydd. Craidd y gyfundrefn yw Cytundeb Sefydliad Masnach y Byd a drafodwyd ac a arwyddwyd yn Ebrill 2004 ym [[Marrakech]], [[Moroco]], gan y rhan fwyaf o bwerau economaidd mawr y byd ac a gydnabuwyd ar ôl hynny gan eu [[senedd]]au. Bwriad swyddogol y sefydliad yw cynorthwyo cynhyrchwyr nwyddau a gwasanaethau, allforwyr a mewnforwyr, i weithredu a hynny trwy gyfyngu rhwystrau i [[masnach rydd|fasnach]]. Yn 2017 roedd gan y gyfundrefn 164 aelod-wladwriaeth. Nid yw [[Iran]] a rhan helaeth y [[byd Arabaidd]] yn aelodau. Ffrangeg, Sbaeneg a Saesneg yw ei hieithoedd swyddogol.
 
Ers 2001, mae Sefydliad Masnach y Byd yn dilyn cyfarwyddiadau Cylch Doha, a gytunwyd yn [[Doha]], prifddinas [[Qatar]]. Er nad yw'n un o asiantaethau arbennig [[y Cenhedloedd Unedig]], mae ganddo gysylltiadau â'r gyfundrefn honno. Lleolir ei pencadlysbencadlys yn ninas [[Genefa]], [[Y Swistir]]. Yn 2013, daeth y diplomydd Brasilaidd Roberto Azevêdo yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Masnach y Byd, gan olynu'r Ffrancwr Pascal Lamy.
 
Ers diwedd y 1990au, mae Sefydliad Masnach y Byd dan feirniadaeth lem mudiadau gwleidyddol amgen sy'n gwrthwynebu yr hyn a alwent yn "hybu [[globaleiddio]]'r [[economi ryngwladol]]" a "rhoi rhwydd hynt" i fasnachwyr y gwledydd cyfoethog ar draul gweithwyr mewn gwledydd llai datblygiedig a'r tlodion yn gyffredinol. Mewn canlyniad mae cynadleddau'r sefydliad wedi bod yn ffocws i wrthdystio ar raddfa eang.