John Ford: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732
Tagiau: Golygiad cod 2017
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 21:53, 7 Tachwedd 2020

Dramodydd o Sais oedd John Ford (1586 – tua 1539) a flodeuai yn oes theatr Iago a Siarl.

John Ford
Ganwyd17 Ebrill 1586 Edit this on Wikidata
Dyfnaint Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1639 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdramodydd, bardd, ysgrifennwr, actor, actor llwyfan Edit this on Wikidata
Arddulldrama fiction Edit this on Wikidata

Ganed i deulu bonheddig yn Nyfnaint a fe'i bedyddiwyd ar 17 Ebrill 1586 yn Ilsington. Cafodd ei dderbyn i'r Deml Ganol ym 1602, ac mae'n debyg iddo aros yno am gyfnod hir, ac eithrio ei waharddiad dros dro o 1606 i 1608. Cyn iddo ymwneud â'r theatr, ysgrifennodd sawl gwaith gan gynnwys galargerdd er cof am Charles Blount, Iarll 1af Dyfnaint, a phamffled rhyddiaith ym 1606.[1]

Cydweithiodd gydag eraill ar o leiaf pum drama rhwng 1620 a 1626, gan ddechrau gyda The Laws of Candy (1620) gyda Philip Massinger. Cyd-ysgrifennodd The Witch of Edmonton (1621) gyda William Rowley a Thomas Dekker; The Spanish Gypsy (1623) gyda Thomas Middleton, Rowley a Dekker; The Fair Maid of the Inn (1626) gyda John Fletcher; a The Sun's Darling (1624) gyda Dekker. Credir iddo hefyd gyd-ysgrifennu tair drama goll, ac o bosib The Welsh Ambassador (1623), gyda Dekker, ac mae'n bosib iddo gyfrannu at ddramâu eraill yng nghanon Francis Beaumont a John Fletcher hefyd.

Wedi 1627, mae'n debyg i Ford weithio ar ben ei hunan ar gyfer theatrau preifat, ac wyth drama ganddo sydd yn goroesi: The Queen (1627), The Lover's Melancholy (1628), The Broken Heart (1629), 'Tis Pity She's a Whore (1631), Love's Sacrifice (1632), Perkin Warbeck (1633), The Fancies Chaste and Noble (1636), a The Lady's Trial (1639). Maent yn ymwneud yn bennaf â dewrder a dyfalbarhad, a themâu cyffredin yw'r pruddglwyf, artaith, llosgach, a rhithdyb. Nid oes tystiolaeth o'i fywyd nac ei waith wedi 1639, a chredir iddo farw tua'r cyfnod hwn.

Cyfeiriadau

  1. (Saesneg) John Ford (British dramatist). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Tachwedd 2020.