John Ford: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
B dol
Llinell 7:
Cydweithiodd gydag eraill ar o leiaf pum drama rhwng 1620 a 1626, gan ddechrau gyda ''The Laws of Candy'' (1620) gyda [[Philip Massinger]]. Cyd-ysgrifennodd ''The Witch of Edmonton'' (1621) gyda [[William Rowley]] a [[Thomas Dekker]]; ''The Spanish Gypsy'' (1623) gyda [[Thomas Middleton]], Rowley a Dekker; ''The Fair Maid of the Inn'' (1626) gyda [[John Fletcher]]; a ''The Sun's Darling'' (1624) gyda Dekker. Credir iddo hefyd gyd-ysgrifennu tair drama goll, ac o bosib ''The Welsh Ambassador'' (1623), gyda Dekker, ac mae'n bosib iddo gyfrannu at ddramâu eraill yng nghanon [[Francis Beaumont]] a John Fletcher hefyd.
 
Wedi 1627, mae'n debyg i Ford weithio ar ben ei hunan ar gyfer theatrau preifat, ac wyth drama ganddo sydd yn goroesi: ''The Queen'' (1627), ''The Lover's Melancholy'' (1628), ''The Broken Heart'' (1629), [['Tis Pity She's a Whore|'''Tis Pity She's a Whore'']] (1631), ''Love's Sacrifice'' (1632), ''Perkin Warbeck'' (1633), ''The Fancies Chaste and Noble'' (1636), a ''The Lady's Trial'' (1639). Maent yn ymwneud yn bennaf â dewrder a dyfalbarhad, a themâu cyffredin yw'r pruddglwyf, artaith, llosgach, a rhithdyb. Nid oes tystiolaeth o'i fywyd nac ei waith wedi 1639, a chredir iddo farw tua'r cyfnod hwn.
 
== Cyfeiriadau ==