John Ford (cyfarwyddwr ffilm): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
ehangu fymryn
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
{{cys-gwa|Am y dramodydd Seisnig, gweler [[John Ford]].}}
{{Person | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | dateformat = dmy }}
[[Cyfarwyddwr ffilm]] [[Americanwyr|Americanaidd]] oedd '''John Ford''' (ganed John Martin Feeny; [[1 Chwefror]] [[1894]] – [[31 Awst]] [[1973]])<ref>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/John-Ford-American-director |teitl=John Ford (American director) |dyddiadcyrchiad=7 Tachwedd 2020 }}</ref> sydd yn nodedig am ei ffilmiau yn genre'r [[Y Gorllewin Gwyllt (genre)|Gorllewin Gwyllt]], gan gynnwys ''Stagecoach'' (1939) a ''The Searchers'' (1956), a'i addasiadau o nofelau megis ''The Grapes of Wrath'' (1940) a ''[[How Green Was My Valley (ffilm)|How Green Was My Valley]]'' (1941). Gweithiodd yn aml gyda'r actor [[John Wayne]].
 
Enillodd bedair [[Gwobr yr Academi]] am Gyfarwyddwr Gorau: ''The Informer'' (1935), ''The Grapes of Wrath'', ''How Green Was My Valley'', a ''The Quiet Man'' (1952).
 
== Bywyd cynnar ==
Ganed John Martin Feeny ar 1 Chwefror 1894 yn [[Cape Elizabeth, Maine]], yn fab i Sean O'Feeney a'i wraig Barbara (Curran gynt). Ymfudwyr o [[Galway]] oedd ei rieni, a llongwr oedd Sean. Yn ddiweddarach yn ei fywyd, bu'n aml yn [[Gwyddeleg|Gwyddeleiddio]]'i enw i Sean Aloysius O’Feeney neu O’Fearna. Fe'i magwyd yn [[Portland, Maine]], ac yn ei arddegau gweithiodd ar lwythlongau yn ystod gwyliau'r haf. Methodd â'i derbyn i Academi Lyngesol yr Unol Daleithiau yn [[Annapolis, Maryland]], felly aeth ym 1914 aeth i [[Hollywood]] lle'r oedd ei frawd hŷn yn gyfarwyddwr ac yn actor dan yr enw Francis Ford.
 
Gweithiodd John yn arolygwr celfi, styntiwr beic modur, dyn camera cynorthwyol, a grip ar setiau ffilmiau Francis, a bu hefyd yn chwarae mân rannau ac yn cyfrannu at sgriptiau, a dysgodd grefft y sinema, yn enwedig gwaith camera a thechnegau golygu. Cafodd ei alw yn Jack Ford, ac felly mabwysiadodd yr enw John Ford pan ddechreuodd wneuthur ffilmiau ei hun.
 
== Y cyfnod mud ==
Y ffilm gyntaf i John Ford ei chyfarwyddo oedd ''The Tornado'' (1917).
 
== Diwedd ei oes ==
Bu farw John Ford ar 31 Awst 1973 o [[canser|ganser]] yn ei gartref yn Palm Desert yn ne [[Califfornia]], yn 79 oed.
 
== Cyfeiriadau ==
Llinell 7 ⟶ 20:
 
{{DEFAULTSORT:Ford, John}}
[[Categori:Americanwyr Gwyddelig]]
[[Categori:Cyfarwyddwyr ffilm Americanaidd]]
[[Categori:Cyfarwyddwyr ffilmiau'r Gorllewin Gwyllt]]