Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Anna Fison (Morfudd Eryri)"

dim crynodeb golygu
(→‎top: Gwybodlen wd)
 
Ieithydd, bardd ac addysgydd oedd '''Anna Fison''', a adnabyddwyd fel '''Morfudd Eryri''' ([[14 Chwefror]] [[1839]] – [[21 Chwefror]] [[1920]]).
 
Fe'i ganwyd yn Barmingham, [[Swydd Suffolk]], yr ieuengaf o ugain o blant Thomas Fison, a'i ail wraig, Charlotte. Derbyniodd ei haddysg yn [[Llundain]], [[Cheltenham]] ac ar y cyfandir, ac yna symud i fyw at ei brawd yn [[Rhydychen]]. Yn ystod y cyfnod hwnnw y dysgodd ddarllen y Gymraeg, a hynny dan ddylanwad Dr Charles Williams, a oedd yn Brifathro [[Coleg yr Iesu, Rhydychen|Coleg Iesu]] ar y pryd. Ymddiddorai yn fawr mewn ieithoedd, ac yn ogystal â Chymraeg, medrai ddarllen [[Hebraeg]], [[Groeg]], [[Lladin]], Anglo[[Eingl-Sacsoneg]], [[Saesneg]], [[Almaeneg]], [[Sbaeneg]], [[Eidaleg]] a [[Ffrangeg]].
 
Yn 1871, priododd â David Walter Thomas, a oedd yn Ficer yn Eglwys y Santes Ann, [[Mynydd LlandygaiLlandygái]], ger [[Bethesda]], ar y pryd. Tra'n byw yno y dysgodd i siarad Cymraeg, a llwyddodd i'w llwyr feistroli. Enillodd wobrwyon yn yr [[Eisteddfod Genedlaethol]] am ei chyfieithiadau, ei chaneuon a'i thraethodau. Roedd ganddi ddiddordeb arbennig mewn addysg Gymraeg a dywedir bod ganddi ystor o straeon tylwyth teg, ac y gallai eu hadrodd a'u hysgrifennu yn fedrus. Roedd yn cynnal dosbarthiadau nos i chwarelwyr a bu'n rhan o'r ymgais i ddiwygio'r Eisteddfod Genedlaethol yn y 1870au a'r 1880au.
 
'Cydnabyddir Mrs Thomas yn gyffredinol fel un o brif lenorion ein cenedl,' medd darn amdani yn ''[[Papur Pawb]]'' yn 1895, 'dywedwn ein cenedl, oherwydd, er nad oes ddyferyn o waed Cymreig, fel y cyfryw, yn rhedeg drwy ei gwythienau, eto y mae ei chydnabyddiaeth helaeth a'n hiaith, ein llenyddiaeth, ein defion, &c., yn hawlio iddi safle anrhydeddus yn mysg goreugwyr llenyddol a gwladgarol y genedl.'
 
'Nid Cymraes o gyff,' meddai, 'ond Cymraes o galon ydwyf'.
524

golygiad