Brwydr Dupplin Moor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Pethau| fetchwikidata=ALL}}
Ymladdwyd '''Brwydr Dupplin Moor''' ar 10–11 Awst [[1332]] rhwng byddin dilynwyr [[Dafydd II, brenin yr Alban|Dafydd II]], a oedd wedi ei goroni yn frenin yr Alban y flwyddyn flaenorol, ond pwy oedd yn fachgen wyth oed ar y pryd, a byddin ymgyrchol [[Edward Balliol]], hawliwr i'r orsedd. Roedd maes y gad yn agos i dref [[Perth (Yr Alban)|Perth]], [[yr Alban]].
 
Cafodd Balliol gefnogaeth [[Edward III, brenin Lloegr]] yn ei ymgyrch i gipio'r orsedd. Cafodd hefyd y cymorth mwy ymarferol [[Henry de Beaumont]], Sais a fforffedu ei diroedd yn yr Alban. Hwyliodd lluoedd y gwrthryfelwyr ynghyd â'u cynghreiriaid Seisnig o [[Swydd Efrog]] i [[Kinghorn]], [[Fife]]. Oddi yno fe wnaethant ymdaith i [[Dunfermline]] ac ymlaen i gyfeiriad Perth. Ar 10 Awst gwersyllasant yn Forteviot, i'r de o [[Afon Earn]]. I'r gogledd o'r afon roedd gwersyll byddin y teyrngarwyr, a hynny dan orchymyn [[Iarll Mar]]. Croesodd lluoedd Balliol yr afon dan lenni'r nos i ennill uchelfan am yr ymladd y diwrnod canlynol. Yn ystod y frwydr cafodd lluoedd Mar, yn anhrefnus ac ag arfwisg wael, eu llethu gan y saethwyr niferus eu gwrthwynebwyr. Cyflafan oedd y canlyniad.