Diddymu caethwasiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 14:
Ymhlith y Diddymwyr blaenllaw eraill roedd [[Charles Sumner]], Seneddwr gwyn a wnaeth sawl araith gyhoeddus yn erbyn caethwasiaeth; [[Sojourner Truth]], a oedd yn siaradwr crefyddol a oedd yn areithio mewn llawer o gyfarfodydd y Diddymwyr, ac a oedd ei hun yn gaethwas a oedd wedi ffoi.<ref>{{Cite web|title=Sojourner Truth|url=https://www.biography.com/activist/sojourner-truth|website=Biography|access-date=2020-09-04|language=en-us}}</ref>
 
Un o weithiau llenyddol enwocaf y 19eg ganrif a roddodd ddisgrifiad o natur greulon caethwasiaeth oedd nofel [[Harriet Beecher Stowe|Harriet Beecher]], [[Caban F'ewyrth Twm|Uncle Tom’s Cabin]], a gyhoeddwyd yn 1852 ac a fu’n hollbwysig o ran peri i’r cyhoedd sylweddoli pa mor erchyll yw caethwasiaeth.<ref>{{Cite web|title=Harriet Beecher Stowe {{!}} Biography, Books, & Facts|url=https://www.britannica.com/biography/Harriet-Beecher-Stowe|website=Encyclopedia Britannica|access-date=2020-09-04|language=en}}</ref> Cafodd y nofel ddylanwad ar gefnogwyr Diddymu yng Nghymru ble cafodd ei chyhoeddi o dan y teitl ''Caban F’ewythr Twm'' a chyhoeddwyd tair fersiwn ohoni yn y Gymraeg.<ref>{{Cite web|url=https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?ID=1408~4n~NNVx9cmN|title=‘Cymry, Caethwasiaeth a Rhyfel Cartref America’|date=|access-date=|website=Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol|last=James|first=E. Wyn|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> Roedd gan yr awdures, Harriet Beecher Stowe, gysylltiadau teuluol â Chymru hefyd gan fod ei chyndeidiau wedi ymfudo o [[Llanddewibrefi|Landdewi Brefi]], Tregaron i America.
 
Erbyn y 1840au roedd diddymu caethwasiaeth wedi troi'n destun gwleidyddol yn ogystal â bod yn ymgyrch i sicrhau cydraddoldeb. Gwelwyd gwleidyddiaeth fel yr unig ffordd o ddiniistrio caethwasiaeth, ond nid oedd y ddwy brif blaid yn America, sef y Chwigiaid a’r Democratiaid, yn fodlon dod yn rhan o’r drafodaeth. O ganlyniad, ffurfiodd rhai o’r diddymwyr yn y cyfnod hwn eu plaid eu hunain, sef y Blaid Rhyddid. Bu’r blaid newydd hon yn allweddol o ran sicrhau bod diddymu caethwasiaeth yn dod yn destun trafod yng ngwleidyddiaeth genedlaethol America. Yn y pen draw, arweiniodd hynny at ryfel cartref.<ref>{{Cite web|title=Resource WJEC Educational Resources Website|url=https://resources.wjec.co.uk/Pages/ResourceSingle.aspx?rIid=114&langChange=cy-GB%20Uned%202|website=resources.wjec.co.uk|access-date=2020-09-04}}</ref>