William Rees (Gwilym Hiraethog): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 14:
Er iddo gael ei fagu gyda'r [[Eglwys Bresbyteraidd Cymru|Trefnyddion Calfinaidd]] fe ymunodd â'r Annibynwyr wedi iddynt gychwyn achos yn [[Llansannan]] yn [[1828]]. Fe'i galwyd i Lôn Swan, [[Dinbych]] yn [[1837]], yna ymlaen i'r Tabernacl, [[Lerpwl]] ([[1843]]), yna i Salem yn yr un dref ([[1853]]) a diweddu ei yrfa fel gweinidog yn Grove Street, Lerpwl wedi iddo symud yno yn [[1867]]. Bu'n pregethu yno nes iddo ymddeol ym [[1875]]. Roedd ei frawd, [[Henry Rees|Henry]] hefyd ymysg pregethwyr mwyaf blaengar y cyfnod.
 
Gwnaeth enw iddo'i hun fel pregethwr poblogaidd ac ynghyd â'i ddawn fel llenor, golygydd, gwleidydd a darlithydd fe'i enwyd gan [[Gwynfor Evans]] fel ''"...ffigur amlycaf trydydd chwarter y ganrif ddiwethaf pan oedd pregethwyr yn arwyr Cymru."'' Dywedir mai cyfraniad mwyaf Hiraethog i Gymru oedd sefydlu'r ''[[Baner ac Amserau Cymru|Amserau]]'' yn [[1843]]. Yr Amserau oedd y [[Papurau newydd Cymraeg|newyddiadur Cymraeg]] cyntaf i lwyddo. Roedd Hiraethog ymysg cwmni da o [[Anghydffurfiaeth|Anghydffurfwyr]] radicalaidd, pobl megis [[Samuel Roberts (S.R.)|S.R. Llanbrynmair]], [[David Rees]] [[Llanelli]] a [[Ieuan Gwynedd]] – dywedir mai Hiraethog oedd y pennaf yn eu plith. Mynnai Hiraethog a'i gwmni o Annibynwyr radical daro'n erbyn y traddodiad pietistaidd a gadwai [[Cristnogaeth|Gristnogion]] allan o'r byd politicaidd. Cydweithiai yn agos hefyd â [[Robert Everett]], un o brif ymgyrchwyr y Cymry yn America yn erbyn [[caethwasiaeth]].
 
Dywed Gwynfor Evans, er nad oedd [[Cenedlaetholdeb Cymreig|annibyniaeth i Gymru]] yn rhan o'i weledigaeth, y gwelwyd ''"...cenedlaetholdeb gwleidyddol yn dechrau egnïo ynddo".'' (''Seiri Cenedl'', Llandysul, 1986, 205).
 
==Bardd ac emynydd==
Llinell 29 ⟶ 31:
: Tra fo nefoedd wen yn bod.
 
: Ar Galfaria yr ymrwygodd
 
: Ar Galfaria yr ymrwygodd
: Holl ffynhonnau'r dyfnder mawr:
: Torrodd holl argaeau'r nefoedd
Llinell 38 ⟶ 39:
: A chyfiawnder pur a heddwch
: Yn cusanu euog fyd.
 
Dywed Gwynfor Evans, er nad oedd [[Cenedlaetholdeb Cymreig|annibyniaeth i Gymru]] yn rhan o'i weledigaeth, y gwelwyd ''"...cenedlaetholdeb gwleidyddol yn dechrau egnïo ynddo".'' (''Seiri Cenedl'', Llandysul, 1986, 205).
 
==Awdur rhyddiaith==