Sefydliad Masnach y Byd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:World Trade Organization Members.svg|bawd|{{eglurhad|#008000|Aelodau CMB}}{{eglurhad|#00FF00|Aelodau'r [[Undeb Ewropeaidd]], sydd yn aelodau'r sefydliad}}{{eglurhad|#0000FF|Arsyllwyr}}]]
Cyfundrefn ryngwladol yw '''Sefydliad Masnach y Byd''' ([[Ffrangeg]]: ''Organisation mondiale du commerce'', OMC; [[Saesneg]]: ''World Trade Organization'', WTO; [[Sbaeneg]]: ''Organización Mundial del Comercio'', OMC) sy'n ymwneud â'r rheolau sy'n rheoli [[masnach ryngwladol]] rhwng gwledydd. Craidd y gyfundrefn yw Cytundeb Sefydliad Masnach y Byd a
Ers 2001, mae Sefydliad Masnach y Byd yn dilyn cyfarwyddiadau Cylch Doha, a gytunwyd yn [[Doha]], prifddinas [[Qatar]], sef 'Popeth Ond Arfau'. Er nad yw'n un o asiantaethau arbennig [[y Cenhedloedd Unedig]], mae ganddo gysylltiadau â'r gyfundrefn honno. Lleolir ei bencadlys yn ninas [[Genefa]], [[Y Swistir]]. Yn 2013, daeth y diplomydd Brasilaidd Roberto Azevêdo yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Masnach y Byd, gan olynu'r Ffrancwr Pascal Lamy.
Ers diwedd y 1990au, mae Sefydliad Masnach y Byd dan feirniadaeth lem mudiadau gwleidyddol amgen sy'n gwrthwynebu yr hyn a alwent yn "hybu [[globaleiddio]]'r [[economi ryngwladol]]" a "rhoi rhwydd hynt" i fasnachwyr y gwledydd cyfoethog ar draul gweithwyr mewn gwledydd llai datblygiedig a'r tlodion yn gyffredinol. Mewn canlyniad mae cynadleddau'r sefydliad wedi bod yn ffocws i wrthdystio ar raddfa eang.
|