Gwyddonias: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B manion
Llinell 1:
[[Delwedd:Polish sci fi fantasy books.JPG|bawd|150px|Llyfrau ffug-wyddonol [[Pwyleg]]]]
Math o [[ffuglen]] [[Ffuglen Ddamcaniaethol|ddamcaniaethol]] yw '''Ffuglen wyddonol''' (neu weithiau '''gwyddonias''') sy'n damcanu am effeithiau [[gwyddoniaeth]] a [[technoleg|thechnoleg]] ar unigolion a chymdeithas. Mae'r straeon yn aml ynglynyn ymwneud â'r dyfodol neu'r gofod neu effaith datblygiad newydd technolegol ar fyd heddiw. Er gall ymddangos yn unrhyw gyfrwng mae'n fwyaf amlwg ym mydoedd [[ffilm]], [[nofel]]au a [[gemau cyfrifiadurol]].
 
=== Categoreiddio ffuglen wyddonol ===
 
Yn fras, mae modd categoreiddio straeon ffuglen wyddonol ar hyd ystod rhwng ffuglen wyddonol ''caled'' a ''meddal''. Mae'r termau cyffredinol hyn yn disgrifio'r graddau y mae'r dechnoleg dychmygol sy'n ymddangos yn wyddonol, yn gredadwy ac/neu yn cael ei drin yn gyson o fewn y stori.
 
Yn gyffredinol, mae ffuglen wyddonol ar pen 'galed' y sbectrwm wedi'i wreiddio mewn gwyddoniaeth cyfredol y byd go iawn. Ni fydd y dechnoleg yn caniatáu pethau sy'n mynd yn groes i ddealltwriaeth gwyddonol (er enghraifft teithio'n gyflymach na golau neu drwy amser), neu os yw'r dechnoleg yn caniatáu unrhywbeth o'r fath bydd ymdrech i esbonio sut mae'n gweithio o fewn gwyddoniaeth, hyn yn oed os yw'n ddamcaniaethol yn unig. Ar y lleiaf bydd unrhyw dechnoleg ddamcaniaethol yn cael ei esbonio mewn ffordd sy'n gyson o fewn bydysawd dychmygol y gwaith ffuglennol. Mewn ffuglen wyddonol galed, yn aml bydd y dechnoleg ei hunan yn elfen ganolog o'r plot, gyda'r stori'n archwilio effeithiau posib y dechnoleg ar y ddyniolaethddynoliaeth neu gymdetihasgymdeithas. Mae enghreifftiau o ffuglen wyddonol galed yn cynnwys y drioleg ''Mars'' gan [[Kim Stanley Robinson]], a'r ffilm ''[[Gattacca]]''.
 
Ar ben arall y sbectrwm, bydd y dechnoleg mewn ffuglen wyddonol meddal yn fwy ffantasïol. Os geir esboniad o gwbl o sut mae'r dechnoleg yn gweithio, bydd yn tueddu fod yn niwlog ac amwys a/neu'n dibynnu ar elfennau hollol dychmygol nad ydynt yn bodoli'r tu allan i fydysawd y gwaith ffuglenol ei hunan. Enghreifftiau adnabyddus o ffuglen wyddonol meddal yw'r gyfres deledu ''[[Doctor Who]]'', ffilmiau ''[[Star Wars]]'' a bydysawd [[Marvel]].
Llinell 12:
Pegynau eithafol yw'r categorïau uchod a mae'r mwyafrif o enghreifftiau o ffuglen wyddonol yn cwympo rhywle rhwng y ddau begwn. Er enghraifft, gellid dweud bod y gyfres ''[[Star Trek]]'' yn fwy 'caled' na ''[[Star Wars]]'' ond yn fwy meddal na ''[[Firefly]]''.
 
O fewn y genre cyffredinol, mae nifer draddodiadau gwahanol o ran cyd-destunnaudestunau storïol. Defnyddir y term [[Opera Ofod]] (a ddaw o'r cysyniad o [[Opera Sebon]]) i ddisgrifio straeon fel ''[[Star Trek]]'', ''[[Star Wars]]'' a nofelau ''[[The Culture]]'' gan [[Iain M. Banks]]. Fel mae'r enw'n awgyrmuawgrymu, mae'r straeon epig hyn wedi'u gosod ar longau ofod, neu'n cynnwys teithio rhwng planedau, ac fel arfer yn cynnwys nifer fawr o gymeriadau. Mae creuaduriaid estron o blanedau eraill yn gyffredin mewn Opera Ofod, ond ceir digon o enghreifftiau hebddynt, fel ''[[Firefly]]'' neu ''[[Battlestar Galactica]]''.
 
Math arall o ffuglen wyddonol yw ffuglen ddystopaidd. Mae straeon dystopaidd yn dychmygu dyfodol dywyll i'r ddyniolaethddynoliaeth (neu ran ohonniohoni), yn aml oherwydd llywodraeth [[totalitariaeth|totalitaraidd]] neu effeithiau negyddol technoleg ar gymdeithas neu'r amgylchedd. Mae enghreifftiau o'r math yma o ffuglen wyddonol yn cynnwys y ffilm ''[[Blade Runner]]'' a'r nofel ''[[Nineteen-Eighty-Four]]'' gan [[George Orwell]]. Yn gorgyffwrdd â ffuglen ddystopaidd mae ffuglen ôl-apocalyptaidd, sef ffuglen sy'n dychmygu dyfodol yn dilyn trychineb neu ddigwyddiad a newidiodd y byd yn sylweddol er gwaeth, megis trychineb amgylcheddol neu ryfel catastroffig. Mae engrhefftiauenghreifftiau'n cynnwys y ffilimiauffilmiau ''[[Mad Max]]'' neu'r gyfres gemau cyfrifiadur ''[[Fallout]]''. Gall y gymdeithas sy'n gorosigoroesi trychineb o'r fath - os yw'n goroesi o gwbl - feddu ar nodweddion dystopaidd.
 
=== Hanes ===
Llinell 33:
=== Ffuglen wyddonol yn y Gymraeg ===
 
Mae'r mwyafrif o ffuglen wyddonol wreiddiol yn y Gymraeg wedi bod ar ffurf llenyddiaeth yn hytrach na ffuglen weledol. Enghraifft gynnar o lyfr [[Cymraeg]] gwyddonias yw'r nofel ''[[Wythnos Yng Nghymru Fydd]]'' ([[1957]]) gan [[Islwyn Ffowc Elis]], sy'n cynnig dwy weledigaeth dra gwahanol o Gymru'r dyfodol yn y flwyddyn 2033. Aeth Elis ymlaen i ysgrifennu ail nofel ffuglen wyddonol yn 1968, ''[[Y Blaned Dirion]]'', am daith ar long ofod i blaned pell. Yn 1976 cyhoeddwyd y nofel ''[[Y Dydd Olaf]]'' gan [[Owain Owain]], enghraifft o ffuglen ddystopaidd; enghraifft arall mwy diweddar yw yw ''[[Annwyl Smotyn Bach]]'' gan [[Lleucu Roberts]].
 
Dyma restr anghyflawn o weithiau Cymraeg gwreiddiol sy'n perthyn i'r ''genre'':
{{Div col|colwidth=30em}}
;Nofelau: