Noson Guto Ffowc: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Manion
llun
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 2:
Dethlir '''Noson Guto Ffowc''' neu '''Noson Tân Gwyllt''' ledled [[Prydain]] ar y [[5 Tachwedd]] bob blwyddyn. Ar y dyddiad hwn yn [[1605]] y ceisiodd cynllwynwyr [[Catholigiaeth|Catholig]], gan gynnwys [[Guto Ffowc]], ddinistrio Palas [[San Steffan]] â ffrwydron. Roedd Guto'n aelod o grŵp a'u bwriad ar ladd y [[Iago, brenin Lloegr (I) a'r Alban (VI)|Brenin Iago'r 1af]], ond methodd eu hymdrech pan daliwyd Guto tra roedd yn gwarchod y [[powdwr gwn]] yn seleri [[Tŷ'r Arglwyddi]]. Er mwyn dathlu'r ffaith fod y brenin yn dal i fyw taniwyd coelcerthi ledled [[Llundain]], yn unol â thraddodiad yr oes.
 
[[Delwedd:Children from Bontnewydd, Caernarfon, collecting for the “Guy” (15730938785).jpg|bawd|chwith|Plant [[Bontnewydd, Arfon|y Bontnewydd]], ger [[Caernarfon]], yn casglu ceiniogau i'r "Guy" (1962).]]
[[Delwedd:(Guy Fawkes night at Chirk) (6302836170).jpg|bawd|chwith|Plant yn dathlu Noson Guto Ffowc yn [[y Waun]] ym 1954 (ffotograff [[Geoff Charles]])]]
Mae'r arferiad o wneud "Gei", sef model o Guto Ffowc ei hun yn tarddu'n ôl i ddiwedd y 18g pan oedd plant tlawd yn gwneud arian poced drwy ddilorni'r model (pabyddol) hwn, ac o dipyn i beth daeth y 5ed o Dachwedd yn ganolbwynt i'r gweithgaredd. Collwyd yr arferion a'r casineb gwrth-babyddol erbyn cychwyn y 20g a thrôdd y weithgaredd yn un cymdeithasol.