Môr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 44:
==Mytholeg a llên gwerin==
===Y Weilgi===
Gair arall am y môr neu'r cefnfor yw 'weilgi'“weilgi”. Mae hwn yn hen air sydd, yn ôl Geiriadur y Brifysgol, yn dyddio o leia i'r 13g, e.e. “eistedd yd oedynt ar garrec hardlech uch penn y weilgi”. Ystyr gweilgi yw blaidd ac yn ôl y Geiriadur: “math o bersonoliad o'r môr yw gweilgi neu ryw syniad mytholegol amdano fel anifail yn udo, neu…ynneu… yn delweddu'r môr fel blaiddblaidd”. Mae'n bosib mai o'r hen goel fod y blaidd yn greadur tywyllodrus a pheryglus y cododd hyn – yn cynrychioli stormydd.
 
Ceir arwydd tywydd o ardal [[Clynnog Fawr]], [[Gwynedd]] yn cyfeirio at y “bwlff” neu “wlff” (woolf) fel enw ar y pytiau bach o enfys welir weithiau y nail ochr i'r haul ac sydd yn aml iawn yn arwydd bod storm ar ei ffordd. Enwau eraill ar y rhain yw "ci drycin" neu "cyw drycin", ac o Glynnog y cyfeiriad arferol i'w gweld yw i'r gorllewin – dros y môr – rhyw ddwy neu dair awr cyn y machlud.
 
===Casgliad Marie Trevelyan===
Rhywbeth i'w barchu fu'r môr inni'r Cymry erioed ac fel pob cenedl [[arfordir]]ol arall mae ein llên gwerin morol yn gyfoethog iawn – yn enwedig ym mysg morwyr a physgotwyr. I'r sawl y dibynnai ei fywoliaeth a'i fywyd arno byddai defodau a choelion a pharch tuag at y môr yn yswiriant rhag trychineb!.
 
Mae gan [[Marie Trevelyan]] yn ei ''Folk-lore and Folk Stories of Wales'' (1909), gasgliad o straeon a choelion o'r fath. Er enghraifft dywed fod y seithfed neu'r nawfed ton yn gryfach na thonnau eraill ac os llwyddith dyn sy'n boddi i ddal un o'r rhain mae siawns dda y caiff ei achub. Ar y llaw arall os yw rhywun yn nofio tua'r lan mae ei fywyd mewn peryg os caiff ei oddiweddyd gan un o'r tonnau hyn.
Llinell 57:
Ar un adeg 'chydig o bysgod a fwyteid yng Nghymru oherwydd credid bod pysgod yn byw ar gyrff pobl a foddwyd.
 
Byddai tonnau gwynion yn cael eu hystyried â pharchedig ofn a chredid mai ysbrydion rhai a foddwyd oeddent yn codi i'r wyneb ar wynt i gael hwyl yn marchogi eu cesyg gwynion. Gelwid y tonnau gwynion gwylltion oddiar Trwyn yr As ger [[Sain Dunwyd]] ym Morgannwg y “merry“''merry dancers.''.
 
Daeth cwpwrdd Dafydd Jones neu “Davy Jones' Locker” yn enw adnabyddus am y môr. Dyddia'r enw o tua canol y [[18g]] yn ôl ''[[Geiriadur Rhydychen]]'' ac mae ei darddiad yn ansicr. O blith morwyr o Gymru y death yn ôl Marie Trevelyan, ond does gan neb glem pwy oedd y Dafydd Jones gwreiddiol chwaith – [[Môr-ladrad|môr leidr]] yn ôl rhai.
 
Weithiau gwelid goleuadau rhyfedd yn dawnsio o gwmpas y mast a'r rigin. "Cannwyll yr ysbryd" neu "Gannwyll yr Ysbryd Glân" oedd enwau'r morwyr Cymraeg arnynt ("''St Elmo's Fire''" i'r Saeson a morwyr y Cyfandir). Byddai gweld un o'r goleuadau hyn ar ben ei hun yn anlwcus, dau yn arwydd o dywydd braf a mordaith lwyddiannus a llawer ohonynt yn ystod storm yn arwydd fod y gwaetha drosodd ac y deuai hindda'n fuan.
 
Hen stori o Forgannwg oedd bod y diafol ar un adeg yn hwylio oddi ar glannau Cymru mewn llong dri mast i gasglu eneidiau pechaduriaid. Fe'i hadeiladwyd o goed a dorrwyd yn [[Anwfn]] ac roedd yr aroglau [[swlffwr]] a ddeuai ohoni yn erchyll!. Gorfoleddai'r hen ddiafol bob tro y cawsai gargo newydd o eneidiau ond fe wylltiodd hynny [[Dewi Sant]], yn ôl rhai, neu Sant Dynnwyd yn ôl eraill, nes iddo drywannu'r llong â phicell fawr!. Prin y llwyddodd y Diafol i ddianc ac fe ddryllwyd y llong ar greigiau [[Gŵyr]] lle gwnaeth rhyw gawr mawr bric dannedd o'i mast a hances boced o'i hwyl!.
 
===Lwc ag anlwc===
Ceir nifer fawr o ofergoelion yn ymwneud â'r môr – dyma ddyrnaid bychan ohonynt:
 
#Mae clust-dlws aur yn arbed morwr rhag boddi.
#Plentyn ar fwrdd llong yn dod a lwc dda.
#Peidied chwibannu ar fwrdd llong rhag tynnu storm.
Llinell 75:
#Hoelio pedol ar y mast yn arbed rhag drwg.
#Sticio cyllell yn y mast i gael gwynt têg i hwylio
#Ni ddylsid cychwyn mordaith ar ddydd Gwenner oherwydd dyna'r dydd y croeshoiliwyd Crist.
#Mae hwylio o'r harbwr ar ddydd Sul yn lwcus.
#Ddylsai'r gwragedd ar y lan ddim golchi dillad ar y dydd yr hwyliai eu gwŷr – rhag i'r llong gael ei golchi ymaith.
#Mae cau cath mewn cwt neu ei rhoi dan dwb yn codi gwynt mawr a byddai rhai merched yn gwneud hyn i gadw eu gwŷr neu gariadon adre!.
#Taflu cath i'r môr yn tynnu andros o storm.
#Anlwcus gweld rhywun â gwallt coch cyn hwylio.
#Mae penwaig yn casau ffraeo ac os yw rhwydi dau gwch wedi tanglo – peidied a ffraeo neu ni ddelir mwy o benwaig!.
#Peidiwch a chyfri'r pysgod cyn cyrraedd y lan neu ddelir dim mwy.
#Mae priodi yn tynnu stormydd, felly yr amser gorrau i briodi ydi ar ddiwedd y tymor pysgota.
 
===Crefydd y Celtiaid===
Roedd y môr yn bwysig iawn yng nghrefydd yr hen Geltiaid ac os edrychwn ar achau duwiau ac arwyr y Mabinogi gwelwn fod Llŷr, duw'r môr yn dad i [[Bendigeidfran]], [[Branwen]] a [[Manawydan]]. I'r hen Gymry, duw crefft oedd Manawydan yn bennaf ond yn chwedlau Iwerddon roedd ef ([[Manannán mac Lir]]), fel ei dad, yn dduw'r môr fyddai'n marchogi'r tonnau ar ei geffyl gwyn. Ef amgylchynodd Iwerddon â môr i'w hamddiffyn ac a roddodd ei enw i Ynys Manaw.
 
===Moeswersi===
Ceir aml i foeswers yn codi o eigion y môr. Cymerwch yr hen stori gyfarwydd am pam fod y môr yn hallt. Y creadur dwl hwnnw ddwynodd y felin halen hud oedd yn gyfrifol. Roedd yn cofio'n iawn y swyn i gael y felin i gynhyrchu ond anghofiodd y swyn i wneud iddi stopio!. Pan suddodd ei long dan bwysau'r holl halen doedd dim modd adfer na rhoi stop ar y felin byth wedyn!. Y foeswers, yn naturiol, yw i beidio a bod mor farus yn y lle cyntaf a bod canlyniadau pellgyrhaeddol iawn i esgeulustod syml weithiau.
 
A beth am stori Sinbad y morwr pan neidiodd hen ddyn y môr ar ei gefn. Ddeuai hwn byth oddi arno wedyn ac roedd yn amhosib ei dynnu na'i ysgwyd i ffwrdd chwaith. Yn y diwedd rhoddodd Sinbad [[gwin|win]] iddo nes i'r hen ddyn feddwi a llacio ei afael fel y gallodd Sinbad ddianc!. Ceir hen ddywediad: “Os wyt ti am dynnu stanc neu bolyn ffens waeth iti heb a'i gurro ar ei ben hefo gordd - sigla di o yn ôl ac ymlaen ac fe ddaw o'r ddaear yn ddi-lol”. Os na fydded gryf bydded gyfrwys, mewn geiriau eraill.
 
Ceir stori o ardal Clynnog, a cheir fersiynau tebyg o'r un hanes yn [[Nefyn]] a [[Môn]], am bysgotwyr penwaig dros ddwy ganrif yn ôl yn cael helfeydd toreithiog iawn am rai blynyddoedd. Roeddent yn dal a dal a dal, lawer mwy na ellid eu gwerthu na'u halltu na'u sychu at y gaeaf. Ond dal i bysgota wnai'r dynion gan wasgaru'r pysgod hyd y caeau fel gwrtaith hydynoed. Wel, yng ngwyneb yr holl wastraff ac am fod drewdod y pysgod pydredig ar y caeau yn chwythu dros dir rhyw hen wrach oedd yn byw gerllaw, dyma honno yn melltithio'r pysgotwyr gan ddweud na ddaliai neb yr un pysgodyn arall oddiar y rhan hwnnw o'r arfordir am ddau can mlynedd!. Gwir y gair, oherwydd o hynny ymlaen fe beidiodd yr heigiau penwaig ddod ar gyfyl Clynnog a bu raid i'r pysgotwyr a'u teuluoedd symud oddiyno. Dyma, yn ôl rhai, sy'n cyfrif am y murddynod ar y traeth ger Ty'n y Coed.
 
Efallai bod elfen o wirionedd hanesyddol yn y stori hon oherwydd mae'n wir bod penwaig yn newid eu llwybrau ymfudo o bryd i'w gilydd ond hefyd roedd diwedd y [[18g]] yn gyfnod o newid yn y diwydiant pysgota. Bryd hynny fe danseilwyd bywoliaeth y pysgotwyr bach bron ymhobman wrth i gychod mwy ddechrau gweithio allan o borthladdoedd cyfagos gan gipio'r farchnad oddiarnynt. Beth bynnag am hynny y wrach yn cosbi'r pysgotwyr am eu gwastraff gaiff y bai, a'r stori wedi goroesi am fod ynddi foeswers a rhybudd am ganlyniadau bod yn wastraffus.
===Llên gwerin llongau===
Ceir llawer o ddefodau a choelion yn gysylltiedig â llongau:
 
* Adeiladu – ystyrid, ar gychwyn adeiladu, bod gosod y cêl neu gilbren yn iawn yn holl bwysig a rhaid oedd defod briodol i sicrhau hynny. Byddid yn “yfed iechyd” y llong a rhaid oedd taro'r hoelen gyntaf yn gywir. Byddai rhai yn ei tharo drwy bedol ceffyl i sicrhau lwc dda a chlymid ruban coch (lliw gwaed a bywyd) am yr hoelen gynta i arbed rhag melltith a'r llygad ddrwg. Gwae os coda gwreichionyn wrth ei tharo oherwydd byddai'r llong yn siwr o gael ei dinistrio gan dân a byddai pawb yn ofalus rhag brifo a cholli gwaed oherwydd deuai hynny â chanlyniadau difrifol i'r criw rhyw ddydd. Ddylsai neb regi na thyngu chwaith!.
* Enwau – enwau benywaidd fel arfer a byddai'r hen forwyr yn amheus iawn o enwau rhy feiddgar a mawreddog. Dyma pam nad oedd rhai yn gweld llawer o lwc yn enw rhyfygus y Titanic. Pan ddeuai newyddion am anffawd neu longddrylliad byddai cryn ddyfalu am y rhesymau pam a rhai yn sicr o chwilio'n ofalus am rhyw ystyr cudd yn enw'r llong fyddai wedi rhoi arwydd o'i thynged.
* Lansio – enwir y llong ar ei lansiad ac mae'n arfer erbyn hyn i dori potel o wïn neu siampên ar ei blaen i'w gyrru ar ei ffordd. Tardda hyn o'r hen ddefod o gyflwyno aberth dynol i dduw'r môr drwy glymu carcharor ar y llithr-ffordd y gwthid y llong neu gwch i'r dŵr. Roedd hyn yn hanfodol i long ryfel – er mwyn iddi fagu blas ar waed ar gychwyn ei gyrfa. Roedd y Llychlynwyr a'r Polynesiaid yn enwog am hyn a hydynoed mor ddiweddar a 1784 arferai Llywodraethwr Tripoli lansio ei longau rhyfel hefo caethwas wedi ei glymu ar ei blaen.
* Y flaen-ddelw – cariai llongau'r Eifftiaid, y Groegiaid, Phoeniciaid a'r Rhufeiniaid allorau neu ddelwau o dduwiau neu dduwiesau gwarcheidiol. Byddai delwedd o lygad, e.e. llygad y duw Horus ar longau'r Eifftiaid, yn amddiffyn rhag stormydd a llongddrylliadau. Roedd hyn i'w weld yn y dwyrain pell yn ogystal ac fe welwch lun llygaid ar flaen pob jync Tsineaidd a chwch Polynesiaidd hyd heddiw. Roedd blaen-ddelw o'r rhan uchaf o gorff merch – hefo'i llygaid yn rhythu ac yn fron-noeth - yn gyffredin iawn ar longau Ewropeaidd ac Americanaidd yn oes yr hwyliau am fod y llygaid a'r bronnau noethion yn tawelu stormydd.
* Y gloch – ar ôl y flaen-ddelw, y gloch oedd yr eitem bwysica ar y llong ac fe'i cedwid yn barchus ymhell ar ôl i'r llong ei hun orffen ei gyrfa – hynny yw, os nad oedd wedi suddo!. Ac os suddodd y llong – bydd y gloch yn dal yn glywadwy dan y tonnau adeg drycin!.
 
Ceir stori o [[Cernyw|Gernyw]] am forwr glywodd gloch yn canu a'r sŵn yn codi o fedd hen gapten foddwyd yn y môr. Boddwyd y morwr hwnnw ar ei fordaith nesa.