Cymru Fydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Mân gywiriadau
ehangu fymryn
Llinell 5:
Ymhlith aelodau mwyaf blaengar Cymru Fydd yr oedd yr [[hanes]]ydd [[John Edward Lloyd|J.E. Lloyd]], y llenor ac [[addysg]]wr [[Owen Morgan Edwards|O.M. Edwards]] a'r gwleidydd [[Plaid Ryddfrydol (DU)|Rhyddfrydol]] ifanc [[Thomas Edward Ellis|Tom Ellis]]. Aelodau gweithgar eraill o'r mudiad oedd [[Beriah Gwynfe Evans]] a [[Michael D. Jones]].
 
Cyhoeddai'r mudiad ddau gylchgrawn, ''[[Cymru Fydd (cylchgrawn)|Cymru Fydd]]'' yn [[Gymraeg]] a ''[[Young Wales]]'' yn Saesneg. Bu'r mudiad yn ei anterth rhwng 1894–95, ond yna unodd gyda Ffederasiwn Rhyddfrydwyr Gogledd Cymru (ar 18 Ebrill 1895) gan alw'i hun 'Y Ffederaisn Gymreig Genedlaethol'.
 
Ceisiwyd rhoi yr un hawliau i Gymru ag oedd gan y 'Genhedloedd Gartref' gan fwyaf, a hynny o fewn Ymerodraeth Prydain. Rhoddodd y [[Rhyfel Mawr]] ddiwedd arni, a thawel oedd yr ymgyrchu dros annibyniaeth nes i [[Saunders Lewis]] ail gynnau'r fflam pan sefydlodd Blaid Cymru (neu'r 'Blaid Genedlaethol' yn wreiddiol) yn 1925.
 
<gallery>