Cymru Fydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ymwahaniad
ehangu fymryn
Llinell 1:
:''Gweler hefyd [[Cymru Fydd (gwahaniaethu)]]''
 
'''Cymru Fydd''' yw enw mudiad gwladgarol a sefydlwyd gan rai o [[Cymry Llundain|Gymry Llundain]] yn [[1886]]. Elfen ganolog i raglen y mudiad oedd [[hunanlywodraeth]] i [[Cymru|Gymru]]. Yr enw [[Saesneg]] ar y mudiad oedd ''Young Wales'', sy'n adlewyrchiad bwriadol o'r mudiad [[Gwyddelod|Gwyddelig]] cyfoes dros hunanlywodraeth i [[Iwerddon]] ''[[Young Ireland]]''. Y pwnc llosg arall gan y mudiad oedd [[datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru]]. Yn y gyfrol ''Wales'' (gol. Keidrych Rhys) dywed [[gwynfor Evans]], (Cyfrol V; Rhif 8/9) 'Roedd y mudiad yn cynnig dyfodol gwell i bobl, a gafaelodd ym meddyliau'r Cymry; trawsnewidiwyd y mudiad yn 1894, a phersonoliaeth byrlymus Lloyd george oedd yn gyfrifol am y trawsnewid hwnnw.'<ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1214989/1216131/107#?cv=107&m=17&h=Cymru+OR+Fydd+OR+OR+OR+&c=0&s=0&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F1214989%2Fmanifest.json&xywh=-2039%2C-215%2C6592%2C4285 [[llyfrgell Genedlaethol Cymru;] adalwyd 4 Rhagfyr 2020.</ref>
 
Ymhlith aelodau mwyaf blaengar Cymru Fydd yr oedd yr [[hanes]]ydd [[John Edward Lloyd|J.E. Lloyd]] (1861 – 1947), y llenor ac [[addysg]]wr [[Owen Morgan Edwards|O.M. Edwards]] (1858 – 1920) a'r ddau wleidydd [[Plaid Ryddfrydol (DU)|Rhyddfrydol]] [[Thomas Edward Ellis|Tom Ellis]] (1859 – 1899)a [[David Lloyd George]] (1863 – 1945)<ref>[https://www.llyfrgell.cymru/darganfod/oriel-ddigidol/archifau/dyddiadur-lloyd-george/#?c=&m=&s=&cv=&xywh=-874%2C0%2C4545%2C3859 Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru;] adalwyd 4 Rhagfyr 2020</ref>. Aelodau gweithgar eraill o'r mudiad oedd [[Beriah Gwynfe Evans]] (1848 – 1927) a [[Michael D. Jones]] (1822 – 1898).
 
Roedd cylchgrawn o'r un enw'n bodoli cyn ffurfio'r mudiad (yn debyg i Gymdeithas yr iaith). Cyhoeddai'r mudiad ddau gylchgrawn, ''[[Cymru Fydd (cylchgrawn)|Cymru Fydd]]'' yn [[Gymraeg]] a ''[[Young Wales]]'' yn Saesneg. Bu'r mudiad yn ei anterth rhwng 1894–95, ond yna unodd gyda Ffederasiwn Rhyddfrydwyr Gogledd Cymru (ar 18 Ebrill 1895) gan alw'i hun 'Y Ffederaisn Gymreig Genedlaethol'. Yng Nghas-gwent, yng ngwanwyn 1896, cafodd ergyd farwol, ond erbyn hynny, roedd llawer o ganghennau wedi eu sefydlu ledled Cymru, ac egin annibyniaeth wedi'i sefydlu ym meddyliau pobl. Roedd gan y mudiad aelod o staff llawn amser a dros 10,000 o aelodau yn ne Cymru. Mae'n debygol iawn, yn ôl William George yn ei gyfrol ''History of the First National Movement'' (Gwasg y Brython), mai gwrthdaro rhwng aelodau o'r Rhyddfrydwyr, a llwyddiant a ddaeth yn rhy gynnar, yn rhy fuan oedd y rheswm pam y methodd y mudiad. [[David Alfred Thomas]] oedd yr arweinydd yn erbyn annibyniaeth.
 
CeisiwydYmgyrchodd rhoidros yr un hawliau i Gymru ag oedd gan y 'Genhedloedd Gartref' gan fwyaf, a hynny o fewn Ymerodraeth Prydain. Rhoddodd y [[Rhyfel Mawr]] ddiwedd arni, a thawel oedd yr ymgyrchu dros annibyniaeth nes i [[Saunders Lewis]] ail gynnau'r fflam pan sefydlodd Blaid Cymru (neu'r 'Blaid Genedlaethol' yn wreiddiol) yn 1925.
 
<gallery>
File:Revd Michael D Jones (1822-98) NLW3362555.jpg|[[Michael D. Jones]]
Beriah Gwynfe Evans (cropped).jpg|[[Beriah Gwynfe Evans]] (ysgrifennydd y mudiad)
O.M.Edwards 01a.JPG|[[O. M. Edwards]]
T. E. Ellis statue, Bala.jpg|Cofeb [[Thomas Edward Ellis|Tom Ellis]], y Bala