Asyriaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Manion ac ychwanegu'r Nodyn newydd (Anrhydeddau) using AWB
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Gwybodlen WD
 
Llinell 1:
{{Pethau| fetchwikidata=ALL | suppressfields= *}}
[[Delwedd:Flag of the Assyrians.png|bawd|Baner gyfoes y bobl Assyraidd]]
 
[[Grŵp ethnig]] [[pobloedd Semitaidd|Semitaidd]] yw'r '''Asyriaid''' sydd yn frodorol i'r [[Dwyrain Canol]]. Trigasant hyd at 1 miliwn ohonynt yn eu mamwlad, yn ucheldiroedd gogledd [[Irac]], gogledd [[Iran]], de-ddwyrain [[Twrci]], a gogledd-ddwyrain [[Syria]]. Mae rhyw 1–3 miliwn o Asyriaid, neu bobl o dras Asyriaidd, ar wasgar ar draws y byd. Maent yn Gristnogion sydd yn dilyn [[Cristnogaeth Syrieg|y ddefod Syrieg]], ac yn siarad tafodieithoedd [[Aramaeg]].
[[Delwedd:Flag of the Assyrians.png|bawd|chwith|Baner gyfoes y bobl Assyraidd]]
 
Maent yn disgyn o'r hen Asyriaid a fu'n boblogaeth [[Mesopotamia]], [[Babilonia]], ac [[Assyria|Ymerodraeth Asyria]]. Cawsant eu troi'n [[Cristnogaeth|Gristnogion]] yn y 4g, a throdd rhai ohonynt yn [[Nestoriaid]] yn sgil y sgism yn y 5g. Cafodd nifer ohonynt eu lladd yng ngoresgyniadau'r [[Arabiaid]] yn y 7g, y [[Mongolwyr]] yn y 13g, a'r [[Tyrciaid]] yn y 14g. Yn sgil gorchfygiad [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]] yn 1638, unodd y cymunedau Asyriaidd mewn ymgais i gadw eu ffydd. Yn y cyfnod 1914–1924, bu farw cannoedd o filoedd o Asyriaid mewn [[hil-laddiad]] gan yr Otomaniaid a'r Persiaid.<ref>James B. Minahan. ''Encyclopedia of Stateless Nations'' (Santa Barbara: Greenwood, 2016), t. 44.</ref>