Cirgisiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Gwybodlen WD
 
Llinell 1:
{{Pethau| fetchwikidata=ALL | suppressfields= *}}
[[Delwedd:A group of Kirghiz.jpg|bawd|Hen ddarluniad o Girgisiaid (1858).]]
 
[[Pobl Dyrcig]] o [[Canolbarth Asia|Ganolbarth Asia]] yw'r '''Cirgisiaid''' sydd yn byw yn bennaf yng [[Cirgistan|Nghirgistan]] ac yn siarad yr iaith [[Cirgiseg|Girgiseg]]. Maent lleiafrifoedd ohonynt hefyd yn byw yn [[Affganistan]], gorllewin [[Tsieina]], [[Casachstan]], [[Wsbecistan]], [[Tajicistan]], a [[Twrci|Thwrci]]. [[Islam Sunni]] ydy ffydd y mwyafrif.
[[Delwedd:A group of Kirghiz.jpg|bawd|chwith|Hen ddarluniad o Girgisiaid (1858).]]
 
[[Nomad#Bugeiliaid|Nomadiaeth fugeiliol]] yw ffordd o fyw draddodiadol y Cirgisiaid. Gorchfygwyd gorllewin [[Tyrcestan]] gan [[Ymerodraeth Rwsia]] yn ystod ail hanner y 19g, a rhoddwyd tiroedd yn rhanbarth y Cirgisiaid i wladychwyr [[Rwsiaid]]d. Gwrthryfelodd y Cirgisiaid yn 1916, a chafodd degoedd o filoedd – o bosib cannoedd o filoedd – ohonynt eu lladd, a ffoes rhyw draean ohonynt dros fynyddoedd [[Tien Shan]] i Tsieina. Yn ystod cyfnod cynnar [[yr Undeb Sofietaidd]], o 1926 i 1959, ymfudodd niferoedd mawr o Rwsiaid ac [[Wcreiniaid]] i Girgisia, a gostyngodd y gyfran o boblogaeth yr ardal a oedd yn Girgisiaid ethnig o 66% i 40%. Bu llawer ohonynt yn rhoi'r gorau i'w ffordd grwydrol o fyw ac yn amaethu neu yn symud i weithio yn y diwydiannau trymion yn y dinasoedd.