Tyrciaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
Tagiau: Golygiad cod 2017
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Pethau| fetchwikidata=ALL | suppressfields= *}}
Grŵp ethnig a chenedl yw'r '''Tyrciaid''' ([[Tyrceg]]: ''Türk ulusu'' neu ''Türkler'') sy'n byw yn [[Twrci|Nhwrci]] yn bennaf. Defnyddir y gair hefyd i gyfeirio at ddinasyddion Twrci yn gyffredinol, ond dydy'r [[Cyrdiaid]] yn nwyrain Twrci ddim yn ystyried eu hunain yn 'Dyrciaid' o ran cenedligrwydd. Yn ogystal, ceir nifer o Dyrciaid neu bobl o dras Dyrcaidd sydd i'w cael fel lleiafrifoedd ethnig ar hen diriogaeth [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]] (yn bennaf yn [[Bwlgaria]], [[Cyprus]], [[Georgia]], [[Gwlad Groeg]], [[Irac]], [[Kosovo]], [[Macedonia]], [[Rwmania]] a [[Syria]]). Ceir cymunedau o fewnfudwyr Tyrcaidd yn [[Ewrop]] hefyd (yn enwedig yn [[yr Almaen]], [[Ffrainc]], [[gwledydd Prydain]], a'r [[Iseldiroedd]]), ac yng [[Gogledd America|Ngogledd America]] ac [[Awstralia]]. Maent yn wreiddiol o [[Canolbarth Asia|Ganolbarth Asia]] ac yn siarad [[Tyrceg]] fel mamiaith.