Walwniaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Torvalu4 (sgwrs | cyfraniadau)
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1:
{{Pethau| fetchwikidata=ALL | suppressfields= *}}
 
Pobl Ladinaidd sy'n frodorol i [[Walonia]] yn ne [[Gwlad Belg]] yw'r '''Walwniaid'''. Maent yn siarad tafodieithoedd [[Ffrangeg]] a'r [[Walwneg]]. Disgynna'r Walwniaid o'r [[Gâl]]-Rufeiniaid a chanddynt waedoliaeth Germanaidd o'r hen [[Ffranciaid]]. Maent yn cyfri am ryw traean o boblogaeth Gwlad Belg, ac hwy yw grŵp ethno-ieithyddol fwyaf y wlad ar ôl y [[Ffleminiaid]]. Amcangyfrifir bod 4.2–5.3&nbsp;miliwn o Walwniaid ethnig yn y flwyddyn 2015.<ref name=stateless/>
 
[[Delwedd:Linguistic map of Wallonia.png|bawd|chwith|Map ieithyddol Walonia.]]
Mae'r mwyafrif o Walwniaid a Ffleminiaid yn rhannu'r un traddodiad crefyddol, [[Pabyddiaeth]], ac hanes gwleidyddol hir, ond nid yw'r ddwy gymdeithas yn siarad yr un ieithoedd. [[Iaith Romáwns]] a chanddi is-haen [[Celteg|Gelteg]] a dylanwadau [[Germaneg]] yw'r Walwneg, a elwir weithiau yn "Hen Ffrangeg".<ref name=stateless/> Yn yr 20g, cafodd ffurf safonol ar Ffrangeg ei ymsefydlu yn Walonia, ac erbyn heddiw dim ond rhyw draean o Walwniaid sy'n medru'r iaith frodorol. Ceir sefyllfa debyg i'r gogledd, lle mae'r [[Iseldireg]] wedi cymryd tir oddi ar [[Fflemeg]]. Er bod trigolion Ffrangeg y brifddinas [[Brwsel]] yn rhannu tras debyg â thrigolion Walonia, nid ydynt fel rheol yn ystyried eu hunain yn Walwniaid.<ref name=eep/>