Mynydd Chomolungma: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B cysillio ac ychwaneg
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle}}
 
'''Mynydd Everest''' neu '''Qomolangma''' (hefyd '''Chomolungma''', [[Nepaleg]]: '''Sagarmatha''', [[Saesneg]]: ''Mount Everest'') yw'r mynydd uchaf yn y byd. Fe'i lleolir ar y ffîn rhwng [[Tibet]] a [[Nepal]] yn yr [[Himalaya]], ac mae ganddoei uchder oyw 8,848 [[medr]] (29,028 troedfedd) uwch lefel y môr.
 
== Enwi ==
Enwau hynafol y mynydd yn y [[Sansgrit]] yw '''Devgiri''' ("Mynydd Sanctaidd") a '''Devadurga'''. '''Chomolungma''' neu '''Qomolangma''' ("Mam y Bydysawd") yw'r enw [[Tibeteg]], a '''Zhūmùlǎngmǎ Fēng''' (珠穆朗玛峰 neu 珠穆朗瑪峰) neu '''Shèngmǔ Fēng''' (圣母峰 neu 聖母峰) yw'r enw [[Tsieineeg]] perthynol. Yn y [[Nepaleg]] fe'i gelwir yn '''Sagarmatha''' (सगरमाथा), "Pen yr Awyr".
 
Ym [[1865]], rhoddwyd yr enw [[Saesneg]] '''Everest''' ar y mynydd gan [[Andrew Scott Waugh|Andrew Waugh]], [[Uwch-Arolygyddarolygydd India]] ar y pryd. Yn eironig, roedd Syr [[George Everest]], a enwyd y mynydd ar ei ôl, wedi dysgu Waugh i roi enwau cynhenid neu frodorol i bob endid daearyddol, ond doedd ddim modd i estronwyr teithio i Nepal nac i [[Tibet]] ar y pryd. Dyma dywedoddddywedodd Waugh:
<blockquote>
''I was taught by my respected chief and predecessor, Colonel Sir [[George Everest]] to assign to every geographical object its true local or native appellation. But here is a mountain, most probably the highest in the world, without any local name that we can discover, whose native appellation, if it has any, will not very likely be ascertained before we are allowed to penetrate into Nepal. In the meantime the privilege as well as the duty devolves on me to assign…a name whereby it may be known among citizens and geographers and become a household word among civilized nations.''
</blockquote>
 
Yn y [[1960au]] cynarcynnar, sylweddolodd llywodraeth [[Nepal]] nad oedd enw Nepaleg gan y mynydd. Y rheswm am hyn yw nad oedd pobl yr ardaloedd draddodiadoltraddodiadol Nepaleg (hynny yw, [[Dyffryn Kathmandu]] a'r ardaloedd cyfagos) yn gyfarwydd â'r mynydd. Ceisiodd y llywodraeth ddarganfod enw i'r mynydd (doedd yr enw [[Sherpa]]/Tibeteg ''Chomolangma'' ddim yn dderbyniol iddynt, gan eu bod yn ceisio uno a "Nepaleiddio'r" wlad) . DyfeiswydDyfeisiwyd yr enw '''Sagarmatha''' (सगरमाथा) gan [[Baburam Acharya]].
 
Yn [[2002]], cyhoeddodd y papur newydd TseinëegTsieinëeg ''[[Rénmín Rìbào]]'' erthygl yn dadlau na ddylid defnyddio'r enw Saesneg yn y [[byd Gorllewinol]] mwyach, ac y dylid defnyddio'r enw Tibeteg. Dadlent fod yr enw hwnnw'n hŷn na'r un Saesneg, gan i Qomolangma gael ei nodi ar fap TseinëigTsieineaidd mwy na 280 mlynedd yn ôl.<ref>[http://english.people.com.cn/200211/19/eng20021119_107017.shtml Web Reference]</ref>
 
== Dringo'r mynydd ==
Bu nifer o ymdrechion i gyrraedd y copa cyn yr [[Ail Ryfel Byd]], y cyfan ond un ohonynt gan dimau Prydeinig, gan nad oedd caniatâd i ddringo'r mynydd o ochr Tibet a bod Nepal yn rhan o'r [[Ymerodraeth Brydeinig]]. Yn ystod un o'r rhain, yn [[1924]], diflannodd [[George Mallory]] ac [[Andrew Irvine (mynyddwr)|Andrew Irvine]] wrth geisio cyrraedd y copa, a bu awgrymiadau eu bod efallai wedi cyrraedd y copa ond wedi marw ar y ffordd i lawr. Y farn gyffredinol, fodd bynnag, yw na allent fod wedi cyrraedd y copa. Yn [[1999]] cafwyd hyd i gorff Mallory ar y mynydd.
 
Y cyntaf i gyrraedd y copa oedd [[Edmund Hillary]] a [[Tenzing Norgay]] ar [[29 Mai]], [[1953]], newyddion a gyfathrebwyd i'r byd drwy'r newyddiadurwr Cymreig [[Jan Morris]]. Ers hynny mae cryn nifer o ddringwyr wedi cyrraedd y copa; mae'r mynydd yn haws yn dechnegol na rhai o'r copaon 8,000 medr eraill megis [[K2]] a [[Nanga Parbat]]. Er hynny, mae uchder y mynydd yn creu problemau mawr, ac am flynyddoedd ystyrid fod yn rhaid cael [[ocsigen]] ychwanegol i'w ddringo. Fodd bynnag yn [[1978]] dringodd [[Reinhold Messner]] a [[Peter Habeler]] y mynydd heb ddefnyddio ocsigen ychwanegol.
 
Ar [[25 Mai]] [[2008]] cyrhaeddodd Bahadur Sherchan, 76 oed o Nepal, y copa gan osod record newydd am y person hynaf i ddringo'r mynydd.