Ysgol Gyfun Llangefni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Cefndir: Newid pedwar gwers i ‘pedair gwers’. Mae gwers yn fenywaidd.
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 5:
 
Mae tua 670 o blant yn mynychu’r ysgol<ref>{{Cite web|url=http://mylocalschool.gov.wales/School/6604027?lang=en|title=Ystadegau Ysgol Gyfun Llangefni|date=|access-date=|website=|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> a thua 50 o athrawon yn gweithio yno. Mae yna dros 30 o ystafelloedd dosbarth yn yr ysgol, gan gynnwys ystafelloedd cyfrifiaduron a’r campfeydd. Lliw’r wisg ysgol yw glas golau a glas tywyll gyda logo melyn arni, sy'n cynnwys llun llew, tarw, symbol fleur de lis a penwisg milwr. Arwyddair yr ysgol yw “Gorau Cynnydd, Cadw Moes”. Enw'r prifathro yw Mr Huw Davies.
 
Mae ei chyn-ddisgyblion enwog yn cynnwys yr arlunydd [[Jac Jones]], y tenor [[opera]] [[Gwyn Hughes Jones]], y cyflwynydd radio a theledu [[Hywel Gwynfryn]]; actores Hollywood [[Naomi Watts]], cerddor [[Pwyll ap Siôn]] a is-reolwr tim pêl-droed Cymru Osian Roberts.
 
Roedd y Prif lenor [[Sonia Edwards]] yn athrawes Gymraeg yn yr ysgol.<ref>{{dyf gwe| url=http://www.ylolfa.com/chwilio.php?lang=cy&func=pori_awdur&awdur=Sonia%20Edwards| teitl=Sonia Edwards| cyhoeddwr=Y Lolfa| dyddiadcyrchiad=13 Mehefin 2011}}</ref>
 
Ceir nifer o dimau chwaraeon merched a bechgyn llwyddiannus iawn yn yr ysgol. Mae gwersi ymarfer corff hwyliog ddwywaith yr wythnos i ddisgyblion cyfnod allweddol tri, ac unwaith yr wythnos i ddisgyblion cyfnod allweddol pedwar. Os yw disgyblion yn dewis astudio addysg gorfforol ar gyfer TGAU, mae pedair gwers yr wythnos. Mae’r ysgol yn gweithio’n agos gyda chanolfan hamdden Plas Arthur, gyda’r disgyblion yn defnyddio llawer o gyfleusterau'r ganolfan ar gyfer addysg gorfforol.