Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gweriniaeth Iwerddon"

Ychwanegwyd 132 beit ,  6 mis yn ôl
dim crynodeb golygu
B (Ychwanegu arwyddair cywil)
 
Gweriniaeth ar ynys [[Iwerddon]] yw '''Gweriniaeth Iwerddon''' ([[Gwyddeleg]]: ''Poblacht na hÉireann'', [[Saesneg]]: ''Republic of Ireland''; yn swyddogol ''Éire'' neu ''Ireland''). [[Dulyn]] yw [[prifddinas]] y weriniaeth. Mae'n cynnwys 26 o 32 sir Iwerddon.
 
Gelwir pennaeth y wladwriaeth yn '"Uachtarán'" neu [[Arlywydd Iwerddon|Arlywydd]], ond y '"[[Taoiseach]]'" ydyw pennaeth y llywodraeth neu'r Prif Weinidog. Nid yw'r wladwriaeth Wyddeleg yn defnyddio'r enw '"Gweriniaeth Iwerddon'" i ddisgrifiio ei hunan o gwbl, mewn cytundebau rhyngwladwol a chyfansoddiadol Iwerddon (''Éire'', ''Ireland'') yw'r enw a ddefnyddir.
 
== Daearyddiaeth ==
{{Prif|Hanes Gweriniaeth Iwerddon}}
 
Mae'n anodd penderfynu pryd yn union y sefydlwyd '"Gweriniaeth Iwerddon'". Yn 1921 llofnodwyd Cytundeb rhwng cynrychiolwyr y Weriniaeth Wyddelig (Gwyddeleg: ''Saorstát Éireann'') a chynrychiolwyr Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon yn sefydlu [[Gwladwriaeth Rydd Iwerddon]] ([[Saesneg]]: ''Irish Free State''), roedd yr enw Saesneg, ''Irish Freestate'', yn gyfieithiad llythrennol o enw Gwyddeleg y Weriniaeth Wyddelig, ond o dan y cytundeb hwn, roedd y wladwriaeth newydd yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig ac roedd Brenin Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon i barhau fel brenin Iwerddon. Arweinodd hyn at ryfel cartref a gollwyd gan y gweriniaethwyr a sefydlwyd gwladwriaeth Wyddelig gyda Brenin Prydain Fawr ac Iwerddon yn frenin arni.
 
=== Cyfansoddiad 1937 ===
 
Yn 1937 cynhaliwyd refferendwm i sefydlu cyfansoddiad newydd i Iwerddon. Mae [[Cyfansoddiad Iwerddon]] mewn grym hyd heddiw. Nid oedd unrhwy son yn y cyfansoddiad hwn am na brenin na chynrychiolydd Brenhinol yn Iwerddon, er ni fu i'r cyfansoddiad ddweud bod Iwerddon bellach yn wladwriaeth nac yn hollol annibynnol. I bob pwrpas roedd y cysylltiad rhwng y Deyrnas Unedig a'r Wladwriaeth Rydd ar ben. O dan y cyfansoddiad hwn Iwerddon (''Éire'', ''Ireland'') oedd enw'r wlad, nid y Weriniaeth Rydd, a dyma'r sefyllfa gyfreithiol hyd heddiw.
 
=== Deddf Gweriniaeth Iwerddon ===
 
Yn 1949 pasiwyd Deddf gan Senedd Iwerddon o'r enw '"Deddf Gweriniaeth Iwerddon'" a ddatganodd yn glir bod Iwerddon yn Weriniaeth. Ni newidiodd y Ddeddf hon gyfansoddiad 1937 ac mewn gwirionedd nid oedd ynddi ond datganiad clir a diamwys o'r sefyllfa fel y roedd mewn gwirionedd.
 
=== Y Werinaeth Wyddelig a Gweriniaeth Iwerddon ===
 
Nid yw'r ddau derm hyn yn gyfystyr â'i gilydd. Defyddir yr enw '"y Weriniaeth Wyddelig'" (Saesneg: ''The Irish Republic'') i gyfeirio at y wladwriaeth chwildroadol a sefydlwyd yn 1916 gyda gwrthryfel y Pasg yn Nulyn a mannau eraill yn Iwerddon. Dyma'r wladwriaeth a anfonodd gynrychiolwyr i negodi gyda chynrychiolwyr Prydain Fawr ac Iwerddon yn 1921. Gwrthododd nifer helaeth o'r boblogaeth a'r Dáil (Senedd Iwerddon) dderbyn bod y wladwriaeth hon wedi dod i ben pan sefydlwyd y 'Wladwriaeth Rydd' ac mae rhai'n mynnu bod y wladwriaeth hon yn parhau i fodoli'n [[De jure|de juré]] (yn ôl y gyfraith o hyd). Dyma'r wladwriaeth a roddodd Byddin Weriniaethol Iwerddon ei theyrngarwch iddi tan yn ddiweddar iawn, ac mae rhai carfanau 'milwriaethus' yn honni bod y wladwriaeth hon yn bodoli o hyd, er yn guddiedig, a bod pob gwladwriaeth arall (Éire/Ireland a Gogledd Iwerddon) yn anghyfreithlon.
 
Defnyddir yr enw '"Gweriniaeth Iwerddon'" (Saesneg: ''The Republic of Ireland'') ar lafar gwlad i gyfeirio at ''Éire''/Iwerddon wedi pasio Deddf Gweriniaeth Iwerddon.
 
== Siroedd ==
|[[Delwedd:IrelandNumbered.png|250px|Siroedd Iwerddon]]
|'''Gweriniaeth Iwerddon'''
# Áth Cliath - Dublin ([[Dulyn]])*
# Cill Mhantáin - Wicklow
# Loch Garman - Wexford
# Ceatharlach - Carlow
# Cill Dara - Kildare
# An Mhí - Meath
# Lú - Louth
# Muineachán - Monaghan
# An Cabhán - Cavan
# An Longfort - Longford
# An Iarmhí - Westmeath
# Uíbh Fhailí - Offaly
# Laois - Laois
# Cill Chainnigh - Kilkenny
# Port Láirge - Waterford
# Corcaigh - Cork
# Ciarraí - Kerry
# Luimneach - Limerick
# Tiobraid Árann - Tipperary
# An Clár - Clare
# Gaillimh - Galway
# Maigh Eo - Mayo
# Ros Comáin - Roscommon
# Sligeach - Sligo
# Liatroim - Leitrim
# Dún na nGall - Donegal
|'''[[Gogledd Iwerddon]]'''
# Fear Manach - Fermanagh
# Tír Eoghain - Tyrone
# Doire - Derry/Londonderry
# Aontroim - Antrim
# An Dún - Down
# Ard Mhacha - Armagh
|}
 
133

golygiad