Llên Natur: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 25:
Mae galluoedd chwilio'r 115,000 cofnod yn y Tywyddiadur yn caniatáu dadansoddi pob math o ddigwyddiadau sy'n ymwneud â'r tywydd a chyffelyb bynciau yn ddiweddar a thros ganrifoedd yng nghefn gwlad Cymru a thu hwnt. Mae'r adran hon yn rhyngweithiol gyda chyfle i'r defnyddiwr (y gwirfoddolwyr uchod gan fwyaf) uwchlwytho neu lawrlwytho. [[Dyddiadur]]on personol na welodd olau dydd ynghynt yw llawer o'r cofnodion, ac mae [[bywgraffiad]]au nifer o'u hawduron yn hefyd ar gael ar y wefan.<ref>[http://www.llennatur.cymru/Y-Tywyddiadur llennatur.cymru;] adalwyd 26 Awst 2017.</ref>
 
Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'r cofnodion. Mae'r tywydd yn gofnod hanesyddol a chyfoes: nodiadaumegis poblsylwadau heddiw'r bore gan rai sy'n fyw heddiw,yn awr. Ond gellir ei ddefnyddio i gyrch diwrnod arbennig plentyndod, neu sylw er enghraifft mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl. Efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: [[tylluan wen]] yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae yn barod i blannu [[taten|tatws]] gefn gaeaf. Ond mae'r rhain hefyd yn berthnasol iawn i naturiaethwyr sy'n ceisio gweld patrwm a newid o fewn y tywydd yn y cyfnod byr a hir mewn byd y mae ei hinsawdd, ac felly ei dywydd, yn gyflym newid.
 
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - gallwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo a chael gwybodaeth allan: chwilio neu fewnbynnu.
 
==Cronfa o ddyddiaduron personol==