Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "System nerfol"

Lleihawyd o 1 beit ,  11 mis yn ôl
B
dim crynodeb golygu
Tagiau: 2017 source edit
B
Rhwydwaith o gelloedd sydd wedi arbenigo mewn trosglwyddo a phrosesu gwybodaeth o fewn anifail a'i amgylchedd yw'r '''system nerfol'''. Mae'n prosesu'r wybodaeth gan achosi ymatebion mewn rhannau eraill o'r corff. Fe'i gwnaed allan o [[niwron]]au a chelloedd eraill arbenigol, sef [[glia]], sy'n cynorthwyo'r niwronau i weithio. Caiff y system nerfol ei rannu yn fras yn ddau gategori: y [[system nerfol ymylol]] a'r system nerfol ganolog. Mae niwronau yn cynhyrchu ac yn dargludo [[ysgogiad]]au rhwng y ddwy system. Y niwronau synhwyro a'r niwronau eraill sy'n eu cysylltu gyda llinynnau'r nerf, [[madruddyn y cefn]] (asgwrn cefn) a'r [[ymennydd]] yw'r system nerfol canolig. Llinynnau'r nerf, madruddyn y cefn a'r ymennydd yw'r system nerfol ganolog.
 
Mae niwronau synhwyro, mewn ymateb i ysgogiadau, yn cynhyrchu a lledaenu negeseuon i'r system nerfol ganolog, sydd yn prosesu a dargludo'r signalau yn ôl i'r [[cyhyr]]au a'r [[chwarren|chwarennau]]. Mae'r niwronau yn systemau nerfol anifeiliadanifeiliaid yn cysylltu mewn ffurf gymhleth, ac yn defnyddio negeseuon electrogemegol a thrawsyryddion-niwrol i ddargludo'r ysgogiadau o'r naill niwron i'r llall. Mae'r niwronau'n creu cylchedau niwrol, sy'n rheoli sut mae organeb yn deall beth sy'n mynd ymlaen yn ei gorff ac o'i gwmpas, ac felly'n rheoli ei ymddygiad. Mae'r systemau nerfol i'w chanfod mewn nifer o anifeiliaid amlgellog, ond mae'n amrywio'n fawr rhwng pob rhywogaeth.<ref>{{dyf llyfr| teitl=Columbia Encyclopedia: Nervous System| cyhoeddwr=Columbia University Press}}</ref>
 
== Y system nerfol dynol ==
 
=== Y system nerfol ganolog ===
Y system nerfol ganolog (SNG) yw'r rhan fwyaf o'r system nerfol, mae'n cynnwys yr [[ymennydd]] a [[madruddyn y cefn]]. Mae [[ceudod y cefn]] yn dal ac yn amddiffyn madruddyn y cefn, tra bod y pen yn cynnwys ac yn amddiffyn yr ymennydd. Gorchuddir yr SNG gan [[meninges]], sef côt amddiffynol gyda thair haen. AmddiffynirAmddiffyninr yr ymennydd gan y [[penglog|benglog]] yn ogystal, a llinyn yr asgwrn cefn (neu'r 'llinyn arian') gan [[fertebra]]u.
<center><table class="prettytable" cellpadding="1" cellspacing="0">
<center>
<table class="prettytable" cellpadding="1" cellspacing="0">
<tr>
<td rowspan="6"> [[system nerfol ganolog|System<br />nerfol<br />ganolog]]
 
=== Y system nerfol ymylol ===
Y system nerfol ymylol (SNY) yw'r term a ddefnyddir i gyfeirio at y strwythurau nerfol sydd ddim yn rhan o'r SNG. Mae cyrff y celloedd nerfol yn gorwedd o fewn yr SNG, ynteu yn yr ymennydd neu yng nghord y cefn, ac mae prosesau hiraf y celloedd, sef axons, yn ymestyn trwy aelodaauaelodau a crawdcnawd y torso. Ystyrir y rhan fwyaf o'r axons, a elwir yn gyffredin yn nerfau, i fod yn rhan o'r SNY.
 
Lleolir cyrff celloedd nerfau afferol yr SNY yn y ganglia gwraidd dorsal.
 
== Microanatomeg ==
Mae'r system nerfol wedi ei gyfansoddi o niwronau yn bennaf, ar raddfa fanwl, ond mae [[cell glial|celloedd glial]] hefyd yn chwarae rhan pwysigbwysig.
 
=== Niwronau ===
Mae celloed glial yn cefnogi'r niwronau drwy ddarparu maeth, cynnal [[homeostasis]], ffurfio [[myelin]], ac chymryd rhan yn nargludiad signalau yn y system nerfol. Yr yr [[ymennydd|ymennydd dynol]], mae amcangyfrif fod glia yn gor-rifo niwronau o tua 10 i 1.<ref name="sfn">[http://www.sfn.org/index.cfm?pagename=brainBriefings_astrocytes sfn.org Society for Neuroscience, 2000]</ref>
 
Mae celloedd glial cell yn darparu cefnogaeth ac yn amddiffyn y niwronau. Cânt eu hadnabod fel "glud' y system nerfol. Pedwar prif swyddogaeth y celloed glial yw i amgylchynnuamgylchynu'r niwronau i'w dal yn eu lle, i gyflenwi [[maetholion|maeth]] ac [[ocsigen]] i'r niwronau, ac i ynysu un niwron oddi wrth y llall, ac i ddinistrio [[pathogen]]au a chael gwared ar niwronau marw.
 
== Gweler hefyd ==