Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Galisia"

Ychwanegwyd 169 beit ,  6 mis yn ôl
dim crynodeb golygu
Mae gan Galisia ei hiaith ei hun, [[Galisieg]], sy'n iaith Rufeinaidd, sy'n debygach i [[Portiwgaleg|Bortiwgaleg]] na [[Sbaeneg]]. Yn ôl astudiaeth ddiweddar defnyddir yr iaith gan tua 80% o'r boblogaeth. Ymhlith ei harwyr chwedlonol mae [[Pedro Pardo de Cela]] (c. 1425 - [[17 Rhagfyr]] [[1483]]). Ystyrir [[Ramón Piñeiro]] ([[31 Mai]] 1915 - 27 Awst 1990) yn [[Athronydd]], [[awdur]] a chenedlaetholwr o bwys. Fe'i ganwyd yn Armea de Abaixo, Lama, Láncara, Galisia ac roedd yn flaenllaw yn ei ymdrech i hyrwyddo diwylliant Galicia wedi [[Rhyfel Cartref Sbaen]].
 
Roedd [[Rosalía de Castro]] (24 Chwefror 1837 – 15 Gorffennaf 1885) yn brif lenor Galisia ac heddiw yn arwres ffeministaidd. Cyhoeddodd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth ''Cantares gallegos'' (CantoriaionCaneuon Galisieg) ar 17 Mai, 1863. Mae 17 Mai bellach yn cael ei dathlu fel ''Día das Letras Galegas'' - Diwrnod llenyddiaeth Galisieg, yn ddiwrnod o wyliau yn Galisia. Un o brif ffigyrau eraill Galisia yw [[Alfonso Daniel Rodríguez Castelao|Castelao]] (1886 – 1950) a oedd yn arweinydd y mudiad cenelaethol, ysgrifennwr, arlunydd, cartwnydd, dramodydd a doctor.
 
==Cysylltiad Celtaidd==
Mae Galisia yn cael ei hystyried fel gwlad [[Y Celtiaid|Geltaidd]] am ei gysylltiadau Celtaidd hanesyddol.
2,477

golygiad