Mudiad Rhydychen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Pethau| fetchwikidata = ALL}} Mudiad o fewn Eglwys Loegr yn y 19g oedd '''Mudiad Rhydychen'''. Fe'i enwir felly oherwydd bod y rhan fwyaf o'i gefno...'
 
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 3:
Mudiad o fewn [[Eglwys Loegr]] yn y 19g oedd '''Mudiad Rhydychen'''. Fe'i enwir felly oherwydd bod y rhan fwyaf o'i gefnogwyr gwreiddiol yn gysylltiedig â [[Prifysgol Rhydychen|Phrifysgol Rhydychen]]. Roeddent o blaid adfer rhai traddodiadau Cristnogol hŷn yn litwrgi a diwinyddiaeth Anglicanaidd. Chwaraeodd y mudiad ran bwysig wrth lunio egwyddorion [[Anglo-Gatholigiaeth]].
 
Cafodd y mudiad yr enw '''Tractariaeth''' hefyd, ar ôl ei gyfres o 90 o draethodynnau gan awduron amrywiol, ''Tracts for the Times'', a gyhoeddwyd rhwng 1833 a 1841. Galwyd cefnogwyr y mudiad hefyd yn "Newmanites" (cyn 1845) a "Puseyites" (ar ôl 1845), ar ôl [[John Henry Newman]] (1801–1890) ac [[Edward Bouverie Pusey]], dau o'r Dractariaid mwyaf blaenllaw. Roedd [[John Keble]] (1792–1866), yn gyfrannwr pwysig arall i'r gyfres. Enwyd [[Coleg Keble, Rhydychen]], a sefydlwyd ym 1870, ar ôl John Keble.<ref>{{cite web|url=http://anglicanhistory.org/england/swilberforce/resurrections1868.html |title=The Resurrections of the Truth: A Sermon, preached in the Church of Saint Mary the Virgin, Oxford, on Saint Mark's Day, April 25, 1868, being the Day of Laying the First Stone of Keble College|author= Samuel Wilberforce|year=1868|language=en}}</ref>
 
Erbyn y 1840au penderfynodd nifer o gefnogwyr y mudiad fod yr Eglwys Anglicanaidd y tu hwnt i'w hadfer, a throson nhw i'r [[Yr Eglwys Gatholig Rufeinig|Eglwys Gatholig Rufeinig]]. Y mwyaf nodedig o'r rhain oedd Newman ym 1845. Cafodd y mudiad ddylanwad mawr ar Anglicaniaeth.<ref>{{cite book |last1=Walsh |first1=Walter |authorlink1=Walter Walsh (writer) |title=The Secret History of the Oxford Movement |date=1899 |publisher=London Church Association |edition=5th |url=https://archive.org/stream/secrethistoryofo00walsuoft#page/n5/mode/2up|language=en}}</ref>
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
==Llenyddiaeth==