Joseph Beuys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 23:
Yn 1965 perfformiodd un o'i weithfeydd enwocaf ''wie man dem toten Hasen die Bilder erklärt'' (sut mae eglurio lluniau i'r [[Ysgyfarnog|sgwarnog]]) – gan gerdded o amgylch oriel gelf gyda sgwarnog marw yn ei ddwylo fel parodi am yr arferiad o 'egluro celf i'r cyhoedd'. <ref>Martin Müller, Wie man dem toten Hasen die Bilder erklärt. Schamanismus und Erkenntnis im Werk von Joseph Beuys. (Dissertation) VDG Weimar 1994, ISBN 3-9803234-8-X</ref><ref>https://www.britannica.com/biography/Joseph-Beuys</ref>
 
Yn ''I Like America and America Likes Me'', 1974 [[Efrog Newydd]] perfformiodd yn un arall o’i ''Actions'' enwogaf. Y teitl yn dangos gwrthwynebid cryf Beuys i fateroliaeth a rhyfelgarwch America. Fe’i lapiodd ei hun mewn ffelt wrth gyrraedd maes awyr Efrog Newydd a gyrrwyd mewn cefn ambiwlans heb gyffwrdd tir Americanaidd. Wedyn treillioddtreuliodd tridri diwrnod mewn caetsh gyda coyote gwyllt. Ar ddiwedd y tri diwrnod fe’i ail lapiwyd mewn ffelt a gyrrwyd yn ôl i’r maes awyr. Defnyddiodd y metaffor o’r coyote mewn sawl darn arall o waith, gan geisio cyfleu sut roedd yr anifail yn cael ei barchu gan bobl gynhenid America ond yn cael ei erlid gan bobl ‘wareiddiedig’ wyn.
 
Yn y 1970au ymddiddorodd ym fwy mewn siamaniaeth a [[Dewiniaeth|dewiniaeth]] pobloedd gynhenid gan adrodd stori ei achubiaeth gan nomadiaid Tartar a sut lapion nhw ei gorff mewn ffelt a saim i arbed i fywyd fel metaffor am yr angen i ofalu, maethu a pharchu’r cyd-ddyn a’r natur. Teithiodd ac arddangos yn aml yn Iwerddon a’r Alban gan ymddiddori yn draddodiadau'r hen [[Y Celtiaid |Geltiaid]]. <ref>https://www.nationalgalleries.org/art-and-artists/features/joseph-beuys-learning-resource</ref>