Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cludiant yng Nghymru"

Ychwanegwyd 123 beit ,  6 mis yn ôl
map newydd efo Inkscape
B (cat)
Tagiau: 2017 source edit
(map newydd efo Inkscape)
Nid oes system [[cludiant|gludiant]] lwyr integredig gan [[Cymru|Gymru]]; mae teithio i mewn i'r wlad neu tu allan ohonni yn haws na symud y tu mewn iddi.<ref name=EB>{{dyf Britannica |url=http://www.britannica.com/place/Wales/Agriculture-forestry-and-fishing#toc45118 |teitl=Wales: Transportation |dyddiadcyrchiad=16 Awst 2015 }}</ref> Ers talwm, lleolir y prif lwybrau cludiant rhwng y dwyrain a'r gorllewin ar hyd arfordiroedd y gogledd a'r de, ac ar draws y canolbarth yn y fan mae [[Dyffryn Hafren]] yn cysylltu gororau Cymru â [[Canolbarth Lloegr|Chanolbarth Lloegr]]. Datblygodd is-lwybrau o'r gogledd i'r de, ar hyd arfordir y gorllewin a'r [[ffin rhwng Cymru a Lloegr]]. Hyd yn oed ers moderneiddio'r [[ffyrdd Cymru|ffyrdd]], parheir y broblem hanesyddol o sefydlu llwybrau i gludo dros yr ucheldiroedd. Rhwydwaith eang o ffyrdd sydd gan Gymru, yn enwedig ar hyd arfordiroedd y gogledd a'r de, ond yr unig [[traffordd|draffordd]] sy'n treiddio'r wlad yw'r [[M4]] sy'n gysylltu dinasoedd y de â [[Bryste]] ac yn y bôn [[Llundain]].
 
==Rheilffyrdd==
[[Delwedd:Rail network of Wales 2021 Cymraeg.svg|bawd|Map o reilffyrdd Cymru yn 2021]]
Cafodd nifer o linellau'r rheilffyrdd eu cae gan [[Rheilffyrdd Prydain|Reilffyrdd Prydain]] yn y 1950au a'r 1960au. Mae'r rhwydwaith rheilffyrdd presennol yn debyg i batrwm y ffyrdd: lleolir y prif lwybrau ar hyd arfordiroedd y gogledd a'r de. Mae hefyd nifer o [[rheilffordd gul|reilffyrdd cul]] yng Nghymru sy'n gweithredu'n bennaf yn yr haf ar gyfer [[twristiaeth yng Nghymru|twristiaid]].
 
==Porthladdoedd==
Prif borthladd cefnforol y wlad yw [[Aberdaugleddau]], sy'n un o brif ganolfannau Ewrop ar gyfer mewnforio a choethi [[olew]]. Porthladdoedd [[Porthladd Caergybi|Caergybi]], [[Abergwaun]] ac [[Abertawe]] sy'n cysylltu Cymru ac [[Iwerddon]] drwy longau [[fferi]] ar draws [[Môr Iwerddon]]. Mae nifer o borthladdoedd y de, oedd yn arfer allforio [[diwydiant glo Cymru|glo]], heddiw'n mewnforio [[mwyn haearn]], [[petroliwm]], a nwyddau cyffredinol. Er ei [[camlesi Cymru|chamlesi hanesyddol]], nid oes dyfrffyrdd mewndirol masnachol yng Nghymru fodern.<ref name=EB/>
 
[[Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd]] yw [[maes awyr]] mwyaf y wlad, ac yn danfon a derbyn teithwyr ar ehediadau mewnwladol i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig ac ehediadau rhyngwladol i nifer o wledydd.
 
 
 
== Cyfeiriadau ==
4,839

golygiad