Derrig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 22:
==Cyfnodau rhewlifol y Derig==
Fe roes ei enw i ddau gyfnod cymharol fyr o ail ymledu'r rhew ar ôl i'r prif gyfnodau rhewlifol ddod i ben<ref>Bwletin Llên Natur 155, tudalen 2[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/cylchgrawn-155.pdf]</ref>
<blockquote>Yn dilyn diwedd y ''Late Glacial Maximum'' [yr Oes Iâ go iawn] tua 18kya (18 mil o flynyddoedd yn ôl), roedd cyfnod cynnes ym Mhrydain gyda phaill coed mewn gwaddodion brown organic mewn llynnoedd yn dangos bod coedwigoedd yn gyffredin. Tymheredd cyfartalog yn yr haf oedd 17C [nid anhebyg i heddiw]. Tua 13kya mi oerodd yn sydyn iawn yng ngogledd Ewrop, a dyma ddechrau cyfnod y Dryas Diweddar (''Younger Dryas''). Gwelwn ym Mhrydain yn y cyfnod hwn waddodion o glai a silt llwyd ymhobman. Ond erbyn hynny roedd olion paill coed wedi diflannu a phaill rhywogaethau’r Arctig fel ''Dryas octopetala'' wedi cymryd eu lle. Tymheredd cyfartalog erbyn hynny yn yr haf oedd 10C (tebyg i ogledd Siberia heddiw) ac yn y gaeaf -20C. Roedd permafrost yng ngogledd Iwerddon, yr Alban a gwledydd Llychlyn - gwyddwn hyn oherwydd olion ''pingos''. Ymledodd rhew parhaol unwaith eto yn ucheldir yr Alban.</br>
erbyn hynny yn yr haf oedd 10C (tebyg i ogledd Siberia heddiw) ac yn y gaeaf -20C. Roedd permafrost yng ngogledd Iwerddon, yr Alban a gwledydd Llychlyn - gwyddwn hyn oherwydd olion ''pingos''. Ymledodd rhew parhaol unwaith eto yn ucheldir yr Alban.</br>
Yn ystod y Dryas Diweddar roedd ymyl yr ardal iasoer yma (y Ffrynt Polar) yn ymestyn o gyffiniau de Newfoundland i ogledd Portiwgal (dyma derfyn deheuol arferol mynyddoedd iâ [''icebergs''] yn y môr; heddiw mae'r terfyn yn ymestyn o ogledd Newfoundland i ogledd Gwlad yr Ia.</br>
Fe barodd y cyfnod oer hwn am tua 1200 mlynedd, dim ond 1200 mlynedd. Gorffennodd y Dryas Diweddar oer yn sydyn iawn 11.7kya pan fu gwresogi syfrdanol, ac fe gododd tymheredd yr Arctig i fod 2C yn fwy na heddiw. Parhaodd y cyfnod cynnes yma hyd at 9kya yn Alaska, a than yn ddiweddarach ar draws canol Canada (lleoliad llen iâ Laurentia) a gogledd Ewrop.</br>