Sam Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Gwybodlen: ychwanegu Draig Goch using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
Darlledwr Cymraeg cynnar oedd '''Samuel Cornelius Jones''' ([[13 Medi]] [[1898]] – [[13 Medi]] [[1974]]) neu '''Sam Jones''' a anfarwolwyd yn y linell gynganeddol "Babi Sam yw'r BBC".
 
Yng [[Clydach|Nghlydach]] y ganwyd Sam, ar 13 Medi, ac ar yr union ddiwrnod hwnnw yn 1974 y bu farw. Yn 16 oed ymunodd gyda'r [[Llynges]] yn ystod [[y Rhyfel Byd Cyntaf]] cyn gweithio'n athro yn [[Lerpwl]]. Gweithiodd i'r ''[[Western Mail]]'' wedi iddo ddychwelyd i De Cymru cyn ymuno gyda'r BBC yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]]. Gweithiai'n frwd dros ehangu [[Radio Cymraeg|darlledu Cymraeg]] ar y radio ac ef agorodd Stiwdio Bryn Meirion, ym [[Bangor|Mangor]], [[Gwynedd]].<ref>Hafina Clwyd, ''[[Rhywbeth Bob Dydd]]'' gan [[Hafina Clwyd]]; (Gwasg Carreg Gwalch, (2008).</ref>
 
Sam Jones oedd yn gyfrifol am ddwy o raglenni mwyaf poblogaidd y BBC erioed, ac a oedd yn dal i gael eu darlledu yn 2016: [[Noson Lawen]] a [[Talwrn y Beirdd|Thalwrn y Beirdd]]. Gwelodd bwysigrwydd defnyddio pobl gyffredin yn hytrach nag actorion profesiynol yn y ddwy raglen hyn. yn ôl R Alun Jones, ''"Cyfrinach Sam Jones oedd cael pobl y Gogledd i weld gorsaf Bangor fel rhywbeth oedd yn perthyn iddyn nhw. Doedd hynny ddim yn bosib mewn cymunedau fel Abertawe a Chaerdydd."''<ref>[http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/34595060 Gwefan y BBC;] adalwyd 13 Medi 2016.</ref>