Deil Pierre-Yves Lambert<ref>Pierre-Yves Lambert: ''La Langue gauloise : description linguistique, commentaire d'inscriptions choisies'', ail arg., Paris: Errance, 1994 (arg. newydd 2003), tud. 81.</ref> fod y gair ''annw(f)n'' yn gyfuniad o ddwy elfen, sef *''dubnos'' ‘dwfn, byd’ a'r rhagddodiad *''ande-'' ‘dan, oddi tan’. Ystyr lythrennol y gair yw ‘isfyd’ felly, h.y. [[arallfyd]].<ref>Xavier Delamarre: ''Dictionnaire de la langue gauloise : Une approche linguistique du vieux-celtique continental'', ail arg., Paris: Errance, 2003, tud. 50.</ref> Mae'n enw addas am fod Annwn yn cyffwrdd â'r byd hwn ac eto mae ar wahân.