Sheep Dog (ffilm): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 20:
 
== Plot ==
Mae'r ffilm yn cychwyn trwy gyflwyno Tom ei [[Merlyn mynydd Cymreig|ferlyn]] a'i [[Ci|gŵn]]. Mae'r adroddwr yn egluro pam bod Tom yn gorfod defnyddio merlyn i fugeilio yn hytrach na gwneud y gwaith ar droed fel bugeiliaid arferol. Mae'r tir mae o'n bugeilio yn fawr iawn, mae ganddo braidd o 2,000 [[dafad]] ar dros 30 milltir sgwâr o dir mynyddig iawn. Mae rhai o'r darnau mynyddig yn rhy beryglus i ddyn eieu ddringodringo, ond mae coesau sicr y merlyn mynydd Cymreig yn gallu eu tramwyo yn ddiogel. Mae Tom yn dod o hyd i famog sy'n cael trafferth esgor. Mae'r famog yr ochor arall i [[Cors|gors]] wlyb. Pe bai'r ferlyn yn ceisio tramwyo'r gors byddai perygl i'w garnau suddo i'r gwlypdir. Mae Tom yn rhoi ffrwyn Tufty yng ngheg Scott ac mae'r ci'n arwain y ferlyn o daith o dros filltir o amgylch y gors i gael eu haduno a'u meistr. Mae Guide yn tynnu sylw Tom at famog sy'n galaru dros ei hoen marw. Mae Tom yn cael un o efeilliaid mamog arall i'r famog alarus cael ei fabwysiadu. Mae'r famog yn ymwrthod a'r oen mabwysiedig hyd i Tom blingo'r oen marw a gwisgo'r oen magu efo'r croen. Mae Tom yn cael hyd i ran o'i braidd ar gopa sydd dan eira sy'n cuddio'r borfa. Trwy ddefnyddio gwahanol chwibanau mae Tom yn cael ei dri chi i yrru'r defaid ar daith hir at borfa well. Mae Tom wedyn yn canfod [[oen]] sydd a'i fam wedi marw. Mae'n rhoi'r oen mewn cwtsh o garreg ac yn dychwelyd adref i nôl [[llaeth]] i'r oen amddifad, gyda Scott yn gyd farchogaeth ar gefn Tufty. Wedi rhoi'r llaeth mewn potel babi, mae Scott yn dychwelyd at yr oen amddifad ac yn ei fwydo o'r botel. Tra bod Tom yn cysgu mae'n cael ei ddeffro gan sŵn ei braidd mewn braw. Mae [[llwynog]] ar eu hol. Mae Tom a'r cŵn y brysio at y praidd, mae Chip a Guide yn corlannu'r llwynog ac yn ei yrru at fan lle mae Tom yn aros gyda'i gwn i'w saethu, ond nid cyn i'r llwynog lladd naw a mamog a'u wyn. Mae Tom yn dod o hyd i famog ac oen sydd wedi syrthio oddi ar silff o garreg i fan lle nad oes modd iddynt ddod yn rhydd ohono. Mae Tom yn dringo i lawr y dibyn, yn gafael yn yr anifeiliaid gan ddringo yn ôl i fyny'r graig yn eu cario, dyma ddigwyddiad olaf y ffilm.
 
== Nodiadau ==