Pymtheg Llwyth Gwynedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 16eg ganrif16g, 15fed ganrif15g using AWB
Nicdafis (sgwrs | cyfraniadau)
Mân-drwsio fformat
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 1:
Mae '''Pymtheg Llwyth Gwynedd''' neu weithiau '''Pymtheg Llwyth Cymru''' yn cyfeirio at 15 rhestr achyddol h.y. llinach teulu o uchelwyr. Cawsant eu creu, hyd y gwyddys, gan y beirdd Cymreig yn ystod y [[15g]].<ref>Siddons, "Genealogies [2] Welsh", t. 802</ref> Roedd medru adrodd hanes eich teulu'r adeg honno yn ddisgwyliedig, ac yn grefft - gan olrhain yr achau hyd at 'bump llwyth Cymru, neu bymtheg llwyth Gwynedd.
 
Sonir hefyd am 'Bymthecllwyth Gwyndyd' yng ''Ngweithiau Barddonol Huw Arwystl'' yn yr [[16g]] ac ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach yn ''Gwyneddon 3'' (gol [[Ifor Williams]]) 280: 'Henwau y pumpthec-llwyth Gwynedd'.<ref>[http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?Gwyndyd [[Geiriadur Prifysgol Cymru]] (GPC) arlein;adalwyd 22 Chwefror 2016</ref>
 
Mae'r cyfeiriad cyntaf at bymtheg llwyth Gwynedd wedi'i sgwennu'n rhannol gan [[Gutun Owain]] yng nghasgliad [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]]: [[Llawysgrifau Peniarth|131]].<ref name=Henlwythau233>Bartrum, "Hen Lwythau Gwynedd a'r Mars", tud. 233</ref><ref name=Henlwythau233 />