Went the Day Well?: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
 
== Plot ==
Adroddir y stori gan clochydd y pentref, yn cael ei chwarae gan [[Mervyn Johns]], fel petai'n ei adrodd i ymweloddymwelydd i'r pentref ar ôl y rhyfel. Mae'n egluro: un dydd Sadwrn yn ystod yr [[Yr Ail Ryfel Byd|Ail Ryfel Byd]], bu grŵp o filwyr Prydeinig a oedd yn ymddangos yn ddilys yn cyrraedd pentref bach ffuglenol o'r enw Bramley End yn [[Lloegr]]. <ref>{{Cite web|title=Film review: Went the Day Well?|url=http://www.theguardian.com/film/2010/jul/08/went-the-day-well-film-review|website=the Guardian|date=2010-07-08|access-date=2020-12-26|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> Mae'n benwythnos y [[Sulgwyn]] felly mae bywyd hyd yn oed yn dawelach na'r arfer ac nid oes bron i ddim draffig o unrhyw fath yn mynd trwy'r pentref. Ar y dechrau croesewir y milwyr gan y pentrefwyr. Cyn bo hir mae amheuon yn dechrau codi am wir bwrpas a gwir hunaniaeth y milwyr. Wedi i rai o'r pentrefwyr canfod eu bod yn filwyr [[Yr Almaen Natsïaidd|Almaenig]] y bwriedir iddynt ffurfio blaen y gad oresgyniad ar Brydain, maent yn rowndio'r preswylwyr ac yn eu dal yn gaeth yn yr eglwys leol. Mae'r ficer yn cael ei saethu wrth geisio canu cloch yr eglwys fel rhybydd.
 
Mae llawer o'r pentrefwyr yn gweithredu mewn ymgais i roi gwybod i'r awdurdodau tu hwnt i'r pentref o'r hyn sy'n digwydd. Mae cynlluniau yn cynnwys ysgrifennu neges ar wy a'i roi i'r bachgen papur lleol i'w fam. Mae’r cynllun yn methu wrth i'r wyau cael eu chwalu ar ddamwain gan Maud, cyfnither i Mrs Fraser. Wedyn mae Mrs Fraser yn rhoi nodyn ym mhoced ei chyfnither Maude, ond mae'n ei ddefnyddio i ddal ffenestr ei char yn ei le; yna mae ei chi, Edward, yn ei gnoi a'i rwygo ar ôl iddo chwythu i'r sedd gefn. Mae Mrs Collins, y bostfeistres, yn llwyddo i ladd Almaenwr gyda bwyell goed tân, ac mae'n ceisio ffonio am help, ond mae'r merched yn y gyfnewidfa ffôn yn gweld ei golau ac yn penderfynu y gall aros. Mae Mrs Collins yn aros, ac yn cael ei lladd gan Almaenwr arall sy'n cerdded i mewn i'r siop. Yna mae'r ferch yn y gyfnewidfa yn codi'r ffôn, ond yn cael dim ymateb.