Michael D. Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
[[Delwedd:The Rev. Michael D. Jones (1822-98).jpg|bawd|chwith|Michael D. Jones circa 1890]]
 
Cafodd Jones ei eni yn nhŷ Yr Hen Gapel yn [[Llanuwchllyn]], yn fab i Michael Jones a Mary Hughes, ble mae cofeb iddo heddiw. BCafoddCafodd ei eni ar 2 Mawrth 1822 a'i fedyddio yn yr Hen Gapel ar 1 Ebrill.<ref>{{dyf gwe| url=http://www.familysearch.org/eng/search/frameset_search.asp?PAGE=/eng/search/ancestorsearchresults.asp| teitl=IGI Individual Record - Michael Daniel Jones| cyhoeddwr=familysearch.org}}</ref>
 
Wedi cyfnod yn gweithio fel prentis i ddilledydd yn [[Wrecsam]], aeth i astudio yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin ac yn ddiweddarach yng [[Coleg Highbury|Ngholeg Highbury]] yn [[Llundain]].
 
Teithiodd i'r [[Unol Daleithiau America]] ym 1848 i astudio gwerinlywodraeth, caethwasiaeth a phrofiadau'r Cymry a oedd wedi ymgartrefu yno. Roedd ei chwaer hynaf, Mary Ann, hefyd wedi byw yn nhalaith Ohio ers diwedd 1830au. Cafodd ei ordeinio i'r weinidogaeth yng Nghapel Lawrence Street, [[Cincinnati]], [[Ohio]] ym mis Rhagfyr [[1848]]. Bu'n weithgar gyda Chymdeithas y Brython, cymdeithas a sefydlwyd i gynorthwyo ymfudwyr o Gymru. Daeth yn ymwybodol iawn o effaith ymfudo ar iaith, arferion a chrefydd y Cymry ac yn ystod y cyfnod hwnnw y rhoddodd gefnogaeth am y tro cyntaf i'r syniad o sefydlu gwladychfa Gymreig.
 
Dychwelodd i Gymru yn 1849 a daeth yn weinidog ar Eglwysi Annibynnol Bwlchnewydd a Gibeon yn Sir Gaerfyrddin ym 1850. Penodwyd ef yn brifathro Coleg yr Annibynwyr yn y Bala ym 1855,<ref>{{dyf gwe| url=http://www.familysearch.org/eng/search/frameset_search.asp?PAGE=/eng/search/ancestorsearchresults.asp| teitl=Cyfrifiad 1881 - Bodiwan, Llanycil, Merioneth| cyhoeddwr=familysearch.org}}</ref> a hynny fel olynydd i'w dad, Michael Jones. Bu yn y swydd honno hyd nes iddo ymddeol ym [[1892]].