Edward Parry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Manylion teuluol
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
Bardd Cymreig oedd '''Edward Parry''' ([[1723]] - [[16 Medi]] [[1786]]).<ref>[http://yba.llgc.org.uk/cy/c-PARR-EDW-1723.html Y Bywgraffiadur Cymreig]</ref> Saer ydoedd a chyfoeswr i Twm o'r Nant (Thomas Edwards); roedd hefyd yn un o'i brif actorion yn ei [[anterliwt]]iau.
 
Fe'i ganwyd yn Llys Bychan, [[Llansannan]], (Sir Ddinbych yr adeg honno; Bwrdeisdref Sirol Conwy, bellach) a bu'n byw yng Nghefn Byr ac yn Nhan y Fron. Ym 1746 priododd a Gwen, merch Dafydd Hughes o Blâs Pigod, Llansannan. <ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2123822/2124866/14#?xywh=-1117%2C450%2C4413%2C3913 Goleuad Gwynedd Rhif. 116 Mehefin 1828, Cofiant am Edward Parry, gynt o'r Bryn-bugad, yn mhlwyf Llansannan, yn swydd Ddinbych rhan 1] adalwyd 7 Ionawr 2021</ref> Bu farw Gwen ym 1763 a phriododd Edward Parry â ag Ann Gruffydd, gweddw Henry Roberts ym 1765. <ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2123822/2124941/12#?xywh=-446%2C1647%2C3097%2C2013 Goleuad Gwynedd Rhif. 119 Medi 1828, Cofiant am Edward Parry, gynt o'r Bryn-bugad, yn mhlwyf Llansannan, yn swydd Ddinbych rhan 4] adalwyd 7 Ionawr 2021</ref> Bu iddo dwy ferch o'i briodas gyntaf a mab a thair merch o'i ail briodas. <ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2123822/2125016/8#?xywh=-460%2C1031%2C2899%2C1884 Goleuad Gwynedd Rhif. 121 Rhagfyr 1828, Cofiant am Edward Parry, gynt o'r Bryn-bugad, yn mhlwyf Llansannan, yn swydd Ddinbych rhan 6] adalwyd 7 Ionawr 2021</ref> Yn 1747 croesawodd diwygwyr crefyddol i'w dŷ a throdd ei gefn ar wagedd yr anterliwtiau gan ddechrau pregethu yn yr eglwys. Symudodd o Dan y Fron i Fryn Bugad ac ailymunodd gyda'r [[Methodistiaeth|Methodistiaid]].
 
Yn 1773 cododd gapel yn Nhan y Fron ar ei dir ei hun. Yn 1764 cyhoeddodd, gyda Twm o'r Nant a David Jones, Llansannan, ''Y Perl Gwerthfawr''. Yn 1767 cyhoeddodd ''Agoriad i Athrawiaeth y Ddau Gyfamod'' a ailargraffwyd yn 1781. Yn 1789 cyhoeddwyd ''Ychydig Hymnau'', a oedd yn cynnwys y ddau emyn 'Caned nef a daear lawr' a 'Plant afradlon at eich Tad'. Bu farw ar 16 Medi 1786, yn 63 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Llansannan.