Mathew Paris: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Gwybodlen wd
cyfeiriadau
Llinell 5:
| dateformat = dmy
}}
[[Hanes]]ydd canoloesol o [[Saeson|Sais]] oedd '''Mathew Paris''' (c. [[1200]] - Mehefin [[1259]]),<ref>{{cite book|title=Matthew Paris|url=https://books.google.com/books?id=xec7AAAAIAAJ&pg=PA11|publisher=CUP Archive|pages=11|language=en}}</ref> sy'n adnabyddus hefyd fel darluniwr [[llawysgrif]]au.
 
Ymunodd Mathew ag abaty [[Benedictaidd]] [[St Albans]] yn [[1217]] ac aeth yn ddisgybl i'r [[croniclydd]] [[Roger o Wendover]] a'i olynu fel croniclydd yr abaty yn [[1236]]. Teithiodd i astudio yn [[Ffrainc]] ddwywaith ac aeth unwaith yn gennad dros y [[Pab Innocent IV]] i [[Norwy]].
 
Mae ei ''Chronica Majora'' yn olygiad a pharhad o gronicl Roger o Wendover. Ynddo ceir hanes tranc [[Gruffudd ap Llywelyn Fawr]] wrth geisio dianc o [[Tŵr Llundain|Dŵr Llundain]]. Cyhoeddodd sawl gwaith arall, gan gynnwys crynhoad o'r blynyddoedd 1200-1250 yn y ''Chronica Majora'' (y ''Historia Minora'') a bywgraffiadau [[abad]]au.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{comin|Category:Matthew Paris|Mathew Paris}}