Y cyrch ar Gapitol yr Unol Daleithiau (2021): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|250px Roedd '''y cyrch ar Gapitol yr Unol Daleithiau 2021''' yn y...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 00:51, 11 Ionawr 2021

Roedd y cyrch ar Gapitol yr Unol Daleithiau 2021 yn ymgais gan derfysgwyr oedd yn gefnogol i Donald Trump i feddiannu adeiladau'r Capitol yn Washington DC i geisio gwyrdroi canlyniad Etholiad Arlywyddol 2020.

Y terfysg

Ar 6/1/ 2021 ymosododd terfysgwyr ar Capitol yr Unol Daleithiau. Roedd y terfysgwyr yn cefnogi ymdrechion Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, i wyrdroi ei golled o etholiad arlywyddol Tachwedd 2020. Ar ôl torri perimedrau lluosog yr heddlu, bu'r terfysgwyr yn meddiannu, fandaleiddio, [1] [2] a difrodi [3] rhannau o'r adeilad am sawl awr. [4] Arweiniodd y terfysg at wacáu a chloi adeilad y Capitol gan darfu ar sesiwn ar y cyd o'r Gyngres a ymgynullodd i gyfrif y pleidleisiau etholiadol ac i ffurfioli buddugoliaeth etholiadol yr Arlywydd etholedig Joe Biden.

Ymgasglodd y protestwyr i gefnogi ffug honiadau Trump fod etholiad 2020 wedi’i “ddwyn” oddi arno. Wedi’i wysio gan Trump, [5] ymgasglodd miloedd o’i gefnogwyr yn Washington, DC, ar 5 a 6/1/ i fynnu bod yr Is-lywydd Mike Pence a’r Gyngres yn gwrthod cydnabod buddugoliaeth gyfreithlon Biden. [6] [7] [8] Daeth rhai protestwyr yn dreisgar. Bu ymosod ar heddwas a fu farw’n ddiweddarach. Codwyd crocbren ar dir y Capitol a bu ymosod ar newyddiadurwyr. Bu ymgais i gymryd deddfwyr gwystlon ac i greu niwed corfforol i Lefarydd y Tŷ Nancy Pelosi a Pence, am wrthod annilysu’r etholiadol canlyniad a thrwy hynny fuddugoliaeth Biden. [9]

Ymgasglodd protestwyr ar yr Ellipse ar gyfer y "Save America March" ar fore 6/1/; [10] [11] Anerchodd Trump, Donald Trump Jr., Rudy Giuliani, a sawl aelod o’r Gyngres y dorf. Anogodd Trump ei gefnogwyr i "ymladd fel y cythraul" i "gipio ein gwlad yn ôl" ac i orymdeithio tuag at y Capitol. [12] [13] Galwodd Giuliani am "brawf trwy ornest " [14] a bygythiodd Trump Jr wrthwynebwyr yr arlywydd trwy ddweud "rydyn ni'n dod amdanoch chi", ar ôl galw am "ryfel diarbed" yn yr wythnosau cyn y terfysgoedd. [15] [16]

Wrth i'r terfysgwyr fynd i mewn i'r Capitol trwy dorri ffenestri a drysau, gwagiodd lluoedd diogelwch y Capitol siambrau'r Senedd a Thŷ'r Cynrychiolwyr. Gwagiwyd sawl adeilad yng nghanolfan Capitol, a chafodd pob un ohonynt eu cloi lawr. [17] Goresgynnodd y terfysgwyr systemau ddiogelwch y tu i feddiannu siambr y Senedd a wagiwyd. Tynnodd swyddogion gorfodaeth cyfraith ffederal eu gynnau llaw i atal mynediad i lawr y Tŷ gwag. [18] [19] [20] Cafodd swyddfa wag Pelosi ei ysbeilio a'i fandaleiddio. [21] [22] Cafwyd hyd i ddyfeisiau ffrwydrol byrfyfyr ar dir y Capitol yn ystod y terfysgoedd. Darganfuwyd ffrwydron hefyd ger swyddfeydd y Pwyllgor Cenedlaethol Democrataidd a'r Pwyllgor Cenedlaethol Gweriniaethol, ac mewn cerbyd cyfagos.

Marwolaethau

Bu farw pump o bobl yn ystod y digwyddiadau ac anafwyd nifer mwy yn ddifrifol. Bu farw heddwas llu'r Capitol Brian D. Sicknick ar ôl iddo gael ei guro ar ei ben gyda diffoddwr tân. [23] [24] [25] Lansiodd awdurdodau ffederal ymchwiliad llofruddiaeth i archwilio lladd Sicknick. [26] Cafodd un ddynes a geisiodd fynd i mewn i siambr y Tŷ trwy ddrws dan faricêd ei saethu gan yr heddlu a bu farw’n ddiweddarach. [27] [28] [29] Dioddefodd tri gwrthdystiwr arall argyfyngau meddygol angheuol yn ystod y digwyddiad.

Ymateb Trump

Ymatebodd Trump yn araf i'r meddiannu, gan wrthod y ceisiadau cyntaf am anfon Gwarchodlu Cenedlaethol Dosbarth Columbia i chwalu'r dorf. [30] Rhoddodd fideo ar ei gyfrif Twitter yn canmol y terfysgwyr fel "gwladgarwyr gwych" ond yn dweud wrthynt am "fynd adref mewn heddwch" wrth ailadrodd ei honiadau ffug o dwyll etholiadol. [31] [32] Gwasgarwyd y dorf o Capitol yr UD yn ddiweddarach y noson honno. Ailddechreuodd cyfrif y pleidleisiau etholiadol y noson honno ac fe’i cwblhawyd yn oriau mân y bore drannoeth. Wedi'r cyfrif cyhoeddodd Pence mai Biden a’r Is-arlywydd etholedig Kamala Harris oedd yn fuddugol a chadarnhau y byddant yn dechrau yn y swydd ar 20/1/. Dan bwysau gan ei weinyddiaeth ac ymddiswyddiadau niferus, recordiodd Trump araith ar gyfer y teledu lle ymrwymodd i drosglwyddo pŵer yn drefnus. [33] [34] [35] Tridiau yn ddiweddarach ar 9/1/adroddodd The New York Times fod Trump wedi dweud wrth gynorthwywyr yn Y Tŷ Gwyn ei fod yn difaru’r datganiad hwn ac na fyddai’n ymddiswyddo o’i swydd. [36]

Ymateb eraill

Ysgogodd y digwyddiadau gondemniad eang gan arweinwyr gwleidyddol a sefydliadau yn yr Unol Daleithiau ac yn rhyngwladol. Galwodd Arweinydd Mwyafrif y Senedd, Mitch McConnell, y cyrch ar y Capitol yn “wrthryfel a fethodd”. Galwodd Pelosi ac Arweinydd Lleiafrif y Senedd, Chuck Schumer, am i Trump gael ei ddiswyddo, naill ai drwy ddefnyddio 25ain Gwelliant y Cyfansoddiad Americanaidd neu drwy uchelgyhuddo . [37] Ymatebodd Facebook trwy gloi cyfrifon Trump a chael gwared a physt yn ymwneud â’r digwyddiad, ac ymatebodd Twitter i ddechrau trwy gloi ei gyfrif am 12 awr, ac yna ei atal yn barhaol. [38] [39]

Disgrifiwyd y terfysgoedd a'r cyrch i feddianu'r Capitol fel brad, [40] gwrthryfel, anogaeth, terfysgaeth ddomestig, [41] ac ymgais gan Trump i gynnal coup d’état neu hunan-coup . [42] [43] [44]

Cyfeiriadau

  1. "Trump supporters storm Capitol; DC National Guard activated; woman fatally shot". The Washington Post. 7/1/2021. Check date values in: |date= (help)
  2. Thomas Pallini (7/1/2021). "Photos show the aftermath of an unprecedented and destructive siege on the US Capitol that left 4 rioters dead". Business Insider. Check date values in: |date= (help)
  3. Daly, Matthew; Balsamo, Michael (8/1/2021). "Deadly siege focuses attention on Capitol Police". Associated Press. Cyrchwyd 9/1/2021. Check date values in: |access-date=, |date= (help)
  4. Landale, James (7/1/2021). "Capitol siege: Trump's words 'directly led' to violence, Patel says". BBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8/1/2021. Cyrchwyd 7/1/2021. Check date values in: |access-date=, |date=, |archive-date= (help)
  5. Barry, Dan; Frenkel, Sheera (7/1/2021). "'Be There. Will Be Wild!': Trump All but Circled the Date". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 9/1/2021. Check date values in: |access-date=, |date= (help)
  6. Amenabar, Teddy; Zauzmer, Julie; Davies, Emily; Brice-Saddler, Michael; Ruane, Michael E.; et al. (6/1/2021). "Live updates: Hundreds storm Capitol barricades; two nearby buildings briefly evacuated; Trump falsely tells thousands he won". The Washington Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6/1/2021. Cyrchwyd 6/1/2021. Check date values in: |access-date=, |date=, |archivedate= (help)
  7. Peñaloza, Marisa (6/1/2021). "Trump Supporters Clash With Capitol Police At Protest". NPR. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6/1/2021. Cyrchwyd 6/1/2021. Check date values in: |access-date=, |date=, |archivedate= (help)
  8. Rodd, Scott; Hooks, Kris. "Trump Supporters, Proud Boys Converge On California's Capitol To Protest Electoral College Count". CapRadio. KXJZ. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6/1/2021. Cyrchwyd 6/1/2021. Check date values in: |access-date=, |archivedate= (help)
  9. "Must-See New Video Shows Capitol Riot Was Way Worse Than We Thought | All In | MSNBC - YouTube". www.youtube.com. Cyrchwyd January 10, 2021.
  10. Faulders, Katherine; Santucci, John (January 5, 2021). "As he seeks to prevent certification of election, Trump plans to attend DC rally". ABC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7/1/2021. Cyrchwyd 7/1/2021. Check date values in: |access-date=, |archivedate= (help)
  11. Holmes, Anisa (6/1/2021). "Trump Supporters Gather, President Incites Chaos in DC". WRC-TV. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7/1/2021. Cyrchwyd 7/1/2021. Check date values in: |access-date=, |date=, |archivedate= (help)
  12. McCarthy, Tom; Ho, Vivian; Greve, Joan E. (7/1/2021). "Schumer calls pro-Trump mob 'domestic terrorists' as Senate resumes election certification - live". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6/1/2021. Cyrchwyd 6/1/2021. Check date values in: |access-date=, |date=, |archivedate= (help)
  13. Andersen, Travis (6/1/2021). "Before mob stormed US Capitol, Trump told them to 'fight like hell' -". The Boston Globe. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7/1/2021. Cyrchwyd 7/1/2021. Check date values in: |access-date=, |date=, |archivedate= (help)
  14. Blake, Aaron (7/1/2021). "'Let's have trial by combat': How Trump and allies egged on the violent scenes Wednesday". The Washington Post. ISSN 0190-8286. Cyrchwyd 8/1/2021. Check date values in: |access-date=, |date= (help)
  15. "Trump Told Crowd 'You Will Never Take Back Our Country With Weakness'". The New York Times. Cyrchwyd 9/1/2021. Check date values in: |access-date= (help)
  16. "'Reckless' and 'stupid': Trump Jr calls for 'total war' over election results". The Independent. Cyrchwyd January 10, 2021.
  17. "Watch Live: Protesters Swarm US Capitol Steps as Congress Counts Electoral Votes". NBC4 Washington (yn Saesneg). 6/1/2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6/1/2021. Cyrchwyd 6/1/2021. Check date values in: |access-date=, |date=, |archivedate= (help)
  18. Macias, Amanda; Mangan, Dan (6/1/2021). "U.S. Capitol secured hours after pro-Trump rioters invade Congress". CNBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7/1/2021. Cyrchwyd 7/1/2021. Check date values in: |access-date=, |date=, |archivedate= (help)
  19. McEvoy, Jemima (6/1/2021). "DC Protests Live Coverage: Entire Capitol Now On Lockdown As Protesters Enter The Building". Forbes. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6/1/2021. Cyrchwyd 6/1/2021. Check date values in: |access-date=, |date=, |archivedate= (help)
  20. Lang, Brent; Littleton, Cynthia (6/1/2021). "U.S. Capitol on Lockdown, Pro-Trump Protestors Breach Police Lines". Variety. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6/1/2021. Cyrchwyd 6/1/2021. Check date values in: |access-date=, |date=, |archivedate= (help)
  21. Conradis, Brandon (6/1/2021). "Pelosi's office vandalized after pro-Trump rioters storm Capitol". TheHill (yn Saesneg). Cyrchwyd January 10, 2021. Check date values in: |date= (help)
  22. Swaine, Jon. "Man who posed at Pelosi desk said in Facebook post that he is prepared for violent death". The Washington Post (yn Saesneg). ISSN 0190-8286. Cyrchwyd 9/1/2021. Check date values in: |access-date= (help)
  23. Benner, Katie; Levenson, Michael (8/1/2021). "A Capitol Police officer who was seriously injured Wednesday remains on life support". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 8/1/2021. Check date values in: |access-date=, |date= (help)
  24. Dartunorro, Clark; Thorp V, Frank (8/1/2021). "Capitol Police officer dies from injuries after clashing with pro-Trump mob". NBC News. Cyrchwyd 8/1/2021. Check date values in: |access-date=, |date= (help)
  25. "Capitol Police say cop, reportedly hit with fire extinguisher during Hill mob, dies of his injuries". Chicago Tribune. 8/1/2021. Cyrchwyd 8/1/2021. Check date values in: |access-date=, |date= (help)
  26. Perez, Evan; LeBlanc, Paul (8/1/2021). "Federal murder investigation to be opened in Capitol Police officer's death". The Mercury News. Cyrchwyd 8/1/2021. Check date values in: |access-date=, |date= (help)
  27. "Trump supporters storm U.S. Capitol, with one woman killed and tear gas fired". The Washington Post. 6/1/2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6/1/2021. Cyrchwyd 6/1/2021. Check date values in: |access-date=, |date=, |archivedate= (help)
  28. Matthews, Dylan (6/1/2021). "Watch a tearful Trump supporter ask C-SPAN if her president lied to her". Vox. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7/1/2021. Cyrchwyd 7/1/2021. At least one of the group storming the Capitol, Trump supporter Ashli Babbitt, was killed by an unknown shooter after she had made it inside the Capitol building. Check date values in: |access-date=, |date=, |archivedate= (help)
  29. "Man says San Diego woman killed in Capitol siege was his wife". KXAN Austin. 7/1/2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7/1/2021. Cyrchwyd 7/1/2021. Check date values in: |access-date=, |date=, |archivedate= (help)
  30. Walsh, Joe. "Reports: Trump Resisted Sending National Guard To Quell Violent Mob At U.S. Capitol". Forbes.
  31. Zilbermints, Regina (6/1/2021). "Trump tells rioters 'go home,' repeats claims that election 'fraudulent'". The Hill. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6/1/2021. Cyrchwyd 6/1/2021. Check date values in: |access-date=, |date=, |archivedate= (help)
  32. Durkee, Alison (6/1/2021). "Trump Justifies Supporters Storming Capitol: 'These Are The Things And Events That Happen'". Forbes. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7/1/2021. Cyrchwyd 7/1/2021. Check date values in: |access-date=, |date=, |archive-date= (help)
  33. Liptak, Kevin; Stracqualursi, Veronica; Malloy, Allie (7/1/2021). "Isolated Trump reluctantly pledges 'orderly' transition after inciting mob". CNN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7/1/2021. Check date values in: |date=, |archive-date= (help)
  34. Fordham, Evie (7/1/2021). "Trump promises 'orderly transition' on Jan. 20 after Electoral College results certified". Fox News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8/1/2021. Cyrchwyd 7/1/2021. Check date values in: |access-date=, |date=, |archivedate= (help)
  35. Elbaum, Rachel (7/1/2021). "Trump commits to 'orderly transition' in statement after mob storms Capitol". NBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8/1/2021. Cyrchwyd 7/1/2021. Check date values in: |access-date=, |date=, |archivedate= (help)
  36. Broadwater, Luke; Fandos, Nicholas; Haberman, Maggie (9/1/2021). "Democrats Ready Impeachment Charge Against Trump for Inciting Capitol Mob". The New York Times. Cyrchwyd 9/1/2021. Check date values in: |access-date=, |date= (help)
  37. Pramuk, Jacob (7/1/2021). "Pelosi and Schumer call for Trump's immediate removal from office for 'insurrection'" (yn Saesneg). CNBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8/1/2021. Cyrchwyd 7/1/2021. Check date values in: |access-date=, |date=, |archive-date= (help)
  38. Karni, Annie; Haberman, Maggie (6/1/2021). "Trump openly condones supporters who violently stormed the Capitol, prompting Twitter to lock his account". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7/1/2021. Cyrchwyd 7/1/2021. Check date values in: |access-date=, |date=, |archive-date= (help)
  39. Business, Brian Fung, CNN. "Twitter bans President Trump permanently". CNN. Cyrchwyd 9/1/2021. Check date values in: |access-date= (help)
  40. Larson, Carlton (7/1/2021). "The framers would have seen the mob at the Capitol as traitors". Washington Post. Cyrchwyd 9/1/2021. Check date values in: |access-date=, |date= (help)
  41. "Conservative media members erupt with anger over protesters storming Capitol: 'This is domestic terrorism'". Fox News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6/1/2021. Cyrchwyd 7/1/2021. Check date values in: |access-date=, |archive-date= (help)
  42. Sources that refer to the event as a coup include:
  43. Coleman, Justine (6/1/2021). "GOP lawmaker on violence at Capitol: 'This is a coup attempt'". The Hill (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6/1/2021. Cyrchwyd 6/1/2021. Check date values in: |access-date=, |date=, |archivedate= (help)
  44. Call, Charles T. (8/1/2021). "No, it's not a coup — It's a failed 'self-coup' that will undermine US leadership and democracy worldwide". Brookings Institution (yn Saesneg). Cyrchwyd 9/1/2021. Trump’s measures to overturn the elections since November 3 constitute a 'coup,' as they involve illegal usurpation of state power, even when it may not involve the use of force. Yet it is a 'self'-coup because it is perpetrated by the head of government rather than military officers or others against that chief executive. Check date values in: |access-date=, |date= (help)