Beatriz Galindo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
[[Ysgolhaig]] a [[bardd]] [[Sbaenwyr|Sbaenaidd]] yn ystod [[y Dadeni Dysg]] oedd '''Beatriz Galindo''' ([[1465]] – [[23 Tachwedd]] [[1534]]) sy'n nodedig am fod yn y fenyw gyntaf yn hanes i gael ei phenodi yn athrawes prifysgol, a hynny ym [[Prifysgol Salamanca|Mhrifysgol Salamanca]].
 
Ganwyd yn [[Salamanca]], [[Coron Castilia]]. Dysgodd i ddarllen ac ysgrifennu yn [[Lladin]] dan diwtor, ond roedd ei rhieni yn bwriadu ei danfon i [[lleiandy|leiandy]]. Clywodd [[Isabel I, brenhines Castilia|y Frenhines Isabel]] am ddoniau'r ferch o Salamanca, a chafodd Beatriz ei galw i'r llys brenhinol i roi gwersi Lladin i'r Dywysoges Juana.<ref name=Greenhaven/> Priododd Francisco Ramirez de Madrid ("el Artillero") ym 1491.<ref name="WilsonWilson1991">{{cite book|author1=Katharina M. Wilson|author2=M. Wilson|title=An Encyclopedia of Continental Women Writers|url=https://books.google.com/books?id=2Wf1SVbGFg8C&pg=PA440|year=1991|publisher=Taylor & Francis|isbn=978-0-8240-8547-6|pages=440|language=en}}</ref> Bu farw Francisco ym 1501.
 
Sefydlwyd ysbytyi'r tlawd ym [[Madrid]] gan Galindo. Ym Mhrifysgol Salamanca, darlithiodd ar bynciau [[rhethreg]], [[athroniaeth]], a [[meddygaeth]]. Ysgrifennodd sawl cyfrol o farddoniaeth Ladin ac hefyd sylwebaeth ar weithiau [[Aristoteles]].<ref name=Greenhaven>Tom Streissguth, ''The Greenhaven Encyclopedia of the Renaissance'' (Farmington Hills, Michigan: Greenhaven Press, 2008), tt. 138–39.</ref>