Pau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Trafnidiaeth, ynganiadau |
wedi tacluso |
||
Llinell 7:
== Hanes ==
Pau oedd prifddinas [[Béarn]] o 1464 ymlaen, ond cyn hynny roedd [[Morlans]] ac [[Ortès]] yn brifddinasoedd y frenhiniaeth, ac doedd dim rôl arbennig gan Pau cyn y 10fed ganrif. Is-iarllaeth oedd Béarn, dan arweiniad ieirll [[Foish]] (Foix yn Ffrangeg), a oedd yn annibynnol ar adeg pan oedd teyrnasoedd [[Ffrainc]] a [[Lloegr]] yn cystadlu dros ardal [[Aquitaine]], gyda chlymbleidio yn newid yn aml. O'r 10fed tan y 12fed ganrif, pentref gyda chastell oedd Pau, math o gastell a gyfeiriwyd ato yn yr hen [[Ocsitaneg]] fel "castelnau" (sef castell newydd), "casteth nau" yn nhafodiaeth [[Gasconeg]] Ocsitaneg erbyn hyn. "Baile" oedd yn rheoli'r castell, wedi ei benodi gan Ieirll Béarn. [[Gaston Febus]] o deulu Foish-Bearn penderfynodd cryfhau yr amddiffynfeydd, ac a dewisodd Pau yn brifddinas wrth iddo ddod i fyw yn y Castell. Roedd y castell wedyn yn gartref i frenhinoedd [[Nafarroa]] hyd at yr uno gyda Theyrnas Ffrainc ym [[1620]].
==Geirdarddiad==
Nid yw tarddiad yr enw Pau yn eglur. Yn ôl un damcaniaeth, mae'r enw yn cyfeirio at y gweundir yr adeiladwyd Pau arni, ger afon y [[Gave Pau|Gave]], a gyfeirwyd ato yn [[Lladin]] fel ''palus, paludis (f) < palud < pau''. Yn ôl damcaniaeth arall, daw'r enw o'r [[Ffrangeg]] 'palissade' gan gyfeirio at ffensys amddiffynnol.
== Trafnidiaeth ==
Llinell 100 ⟶ 16:
Enw rhwydwaith bysys y dref yw ''Idelis +'', sy'n cael ei redeg gan ''la Société des transports de l'agglomération paloise'', (STAP). Mae lein arbennig y ''Fébus'' a lansiwyd yn 2019 yn defnyddio bysiau [[tanwydd hydrogen]].
Lleolir maes awyr Pau-Pyrénées, cod PUF, yn [[Uzein]],
Mae traffordd yr A64, rhan o'r [[E80]], yn cysylltu Pau gyda [[Toulouse]] yn y Dwyrain ac arfordir [[Gwlad y Basg]] yn y Gorllewin. Mae traffordd yr A65, rhan o'r [[E7]], yn mynd o gyrion Pau i [[Langon]] ger [[Bordeaux]].
Llinell 113 ⟶ 29:
* ''Hestivoc'' [http://www.hestivoc.com ]
* ''Carnaval Bearnes'' [http://www.carnavalbiarnes.fr/ ]
== Gefeilldrefi ==
* {{banergwlad|Cymru}} - [[Abertawe]] (1982)
* {{banergwlad|Yr Almaen}} - [[Goettingen]] (1983)
* {{banergwlad|Yr Eidal}} - [[Pistoia]] (1975)
* {{banergwlad|Portiwgal}} - [[Setúbal]] (1981)
* {{banergwlad|Sbaen}} - [[Zaragoza]] (1960)
* {{banergwlad|UDA}} - [[Mobile, Alabama]] (1975)
* {{banergwlad|Arfordir Ifori}} - [[Doela]] (1983)
* {{banergwlad|Japan}} - [[Kofu]] (1977)
* {{banergwlad|Gweriniaeth Pobl China}} - [[Xi'iana]] (1986)
{{eginyn Ffrainc}}
|