Lucius Sergius Catilina: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 8:
[[Delwedd:Cicerón denuncia a Catilina, por Cesare Maccari.jpg|250px|de|bawd|Cicero yn ymosod ar Catilina (chwith) yn Senedd Rhufain (ffresgo, [[19g]])]]
 
Gwleidydd [[Gweriniaeth Rhufain|Rhufeinig]] oedd '''Lucius Sergius Catilina''' ([[108 CC]] - [[62 CC]]). Disgrifir ef fel gwrthryfelwr gan awduron megis [[Marcus Tullius Cicero|Cicero]] a [[Sallustius]].
 
Ganed ef i hen deulu uchelwrol oedd wedi colli dylanwad yn y blynyddoedd diwethaf. Roedd yn un o gefnogwyr [[Lucius Cornelius Sulla|Sulla]], ac yn arweinydd carfan o wŷr ieuanc. Ymladdodd yn [[Rhyfel y Cyngheiriaid]] yn [[98 CC]] - [[88 CC]], gan wasanaethu dan [[Gnaeus Pompeius Strabo]] yn [[89 CC]]. Gwasanaethodd fel [[praetor]] yn [[68 CC]], yna'r flwyddyn ddilynol fel ''propraetor'' yn Affrica.
 
Methodd y cyfle i ymgeisio am swydd [[Conswl Rhufeinig|Conswl]] yn [[66 CC]], ac yn ôl Sallustius cynllwyniodd i lofruddio'r ddau gonswl yn [[65 CC]], ond methodd y cynllun. Yn [[64 CC]], ymgeisiodd am swydd Conswl eto ar gyfer [[63 CC]], ond yn ôl Cicero, roedd hefyd yn cynllwynio i gipio grym trwy drais. Cafodd Cicero wybod am y cynlluniau ar noson [[27 Hydref]], a chondemniodd Catilina mewn araith yn [[Senedd Rhufain|y Senedd]]. Gorfodwyd Catilina i ffoi i [[Etruria]].
Llinell 17:
 
[[Categori:Genedigaethau 108 CC|Sergius Catilina, Lucius]]
[[Categori:Marwolaethau 62 CC|Sergius Catilina, Lucius]]
[[Categori:Gweriniaeth Rhufain]]
[[Categori:Marwolaethau 62 CC|Sergius Catilina, Lucius]]