Trento: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Gwybodlen lle|ynganiad={{wikidata|property|P443}}|gwlad={{banergwlad|Yr Eidal}}}} Dinas yng ngogledd yr Eidal a phrifddinas talaith Trento a rh...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 10:
Ar ôl cwymp [[yr Ymerodraeth Rufeinig]] y Gorllewin gorchfygwyd y ddinas gan [[Ostrogothiaid]], [[Yr Ymerodraeth Fysantaidd|Bysantiaid]], [[Lombardiaid]] a [[Ffranciaid]] cyn iddi ddod yn rhan o'r [[Yr Ymerodraeth Lân Rufeinig|Ymerodraeth Lân Rufeinig]]. Ym 1027 rhoddodd [[Conrad II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig|yr Ymerawdwr Conrad II]] lywodraeth y ddinas yng ngofal yr esgob-dywysogion Trent, a byddai'n rheolwyr tymhorol ac ysbrydol. Tua 1200 daeth yn ganolfan bwysig o fwyngloddio, yn enwedig am arian. Yn y 14g daeth ardal Trento o dan reolaeth dugiaid [[Awstria]], sef y teulu [[Habsburg]] a fyddai'n gorchufu'r rhanbarth am 600 mlynedd.
 
Roedd y tywysog-esgobion yn llywodraethu Trento tan oes [[Napoleon I, ymerawdwr Ffrainc|Napoleon]]. O dan ad-drefnu'r Ymerodraeth Rufeinig Sanctaidd ym 1802, collodd yr esgob ei awdurdod seciwlar ac atododd yr ardal i diriogaethau Habsburg. Rhoddwyd Trento i [[Bafaria]] gan [[Cytundeb Pressburg|Gytundeb Pressburg]] ym 1805; wedyn, ym 1809, fe'i rhoddwyd gan [[Cytundeb Schönbrunn|GytundwbGytundeb Schönbrunn]] i [[Teyrnas yr Eidal (Napoleonaidd)|Deyrnas yr Eidal]], y wladwriaeth byrhoedlog a sefydlwyd gan Napoleon. Yn dilyn cwymp Napoleon ym 1814, dychwelwyd Trento i Awstria ([[Awstria-Hwngari]] ar ôl 1867). Yn ddiweddarach yn y 19g, daeth Trento, dinas â mwyafrif ethnig Eidalaidd o fewn ymerodraeth Awstria, yn symbol pwerus i'r mudiad Eidalaidd ''[[Iredentiaeth|irredentismo]]''. Fe'i hatodwyd, ynghyd â'i thalaith Eidaleg, i'r Eidal ar ôl [[y Rhyfel Byd Cyntaf]].
 
==Adeiladau a chofadeiladau==