Llan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: diweddaru aelodau cynulliad a manion using AWB
cyfeiriad at GPC
Llinell 2:
Darn o [[tir|dir]] wedi ei gau i mewn yw '''llan'''. Mae'n elfen gyffredin iawn mewn enwau lleoedd [[Cymraeg]], yn arbennig yn yr ystyr 'darn o dir cysegredig', gyda dros 630 o enghreifftiau.
 
Mae gwreiddiau'r [[gair]] yn hen iawn. Yn ôl ''[[Geiriadur Prifysgol Cymru]]'' mae'n deillio o'r gair [[Celteg]] tybiedig *''landa'' o'r gwreiddyn *''lendh-'' 'tir agored, [[rhos]]'.<ref name=GPC>{{dyf GPC |gair=llan |dyddiadcyrchiad=19 Ionawr 2021}}</ref> Cytras iddo yw'r gair ''[[llannerch]]'' a'r gair [[Saesneg]] ''land''. Yn yr [[ieithoedd Celtaidd]] eraill ceir geiriau cytras, fel ''lann'' ('eglwys; rhos, tir agored') yn [[Llydaweg]] a ''lann'' ('tir; adeilad, eglwys') yn y [[Wyddeleg]], er enghraifft. O'r gair [[Galeg]] cytras *''landa'' ceir y gair [[Ffrangeg]] ''lande'' ('rhos, tir garw').<ref name="GPC">Geiriadur Prifysgol Cymru, cyf. 2, tud. 2094.</ref>
 
Yr ystyr gynharaf yn y [[Gymraeg]], mae'n debyg, oedd 'darn o dir caeedig ar gyfer tyfu rhyw gynnyrch neu gadw eiddo', ac fe'i ceir yn yr ystyr honno mewn geiriau cyfansawdd fel ''coedlan'' (tir caeedig i dyfu [[coed]]), ''[[corlan]]'' (i gadw anifeiliaid), ''[[gwinllan]]'' (i [[gwinwydden|winwydd]]), ''[[perllan]]'' (i [[ffrwyth]]au), ''ydlan'' (i dyfu [[ŷd]]), ayb.<ref name="GPC" />
Llinell 10:
Ceir enghreifftiau o enwau llannoedd sy'n disgrifio eu safle hefyd, e.e. [[Llan-faes]] (yn y maes agored), [[Llangoed]] (yn y coed), [[Llanllyfni]] (ger [[Afon Llyfni]]).<ref>Ifor Williams, ''Enwau Lleoedd'' (Lerpwl, 1945).</ref>
 
Gall ''llan'' gyfeirio at yr Eglwys ei hun fel sefydliad yn ogystal, yn arbennig mewn cyferbyniaeth â'r byd seciwlar neu'r [[gwladwriaeth|wladwriaeth]], e.e. yn y dywediad 'mewn llan a [[llys]]' (h.y. ymhobman). Fel [[trosiad]] mae'n gallu golygu '[[nefnefoedd]]oedd' hefyd..<ref>Geiriadur Prifysgolname=GPC Cymru, cyf. 2, tud. 2095.</ref>
 
==Cyfeiriadau==