Gratianus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: thumb|right|Darn arian [[As yn dangos delw Gratianus.]] '''Flavius Gratianus Augustus''' (Ebrill neu Mai 359 - 25 Awst 383) oedd [...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 07:00, 9 Chwefror 2007

Flavius Gratianus Augustus (Ebrill neu Mai 359 - 25 Awst 383) oedd ymerawdwr Rhufain yn y gorllewin rhwng 375 a 383.

Delwedd:158 Gratianus.jpg
Darn arian As yn dangos delw Gratianus.

Roedd yn fab yr ymerawdwr Valentinian I a'i wraig gyntaf Marina Severa, a ganed ef yn ninas Sirmium (Sremska Mitrovica heddiw, yn nhalaith Pannonia.

Ar y 4 Awst 367 cyhoedwyd ef yn "Augustus" gan ei dad. Ar farwolaeth ei dad ar 17 Tachwedd 375, cyhoeddodd y llengoedd yn Pannonnia ei hanner brawd iau, Valentinian II, yn ymerawdwr, er nad oedd ond baban. Cymerodd Gratianus daleithiau Gâl a rhoddodd Italia, Iliria ac Affrica i Valentiniano a'i fam i'w rheoli o Milan. Mewn enw yn unig oedd hyn, mewn gwirionedd Gratianus oedd y meistr.

Rheolid yr ymerodraeth yn y dwyrain gan ei ewythr Valens. Ym mis Mai 378 ennillodd Gratianus fuddugoliaeth fawr dros lwyth Almaenaidd yn mrwydr Argentovaria, gerllaw Colmar heddiw. Yr un flwyddyn lladdwyd Valens ym mrwydr Adrianopolis ar 9 Awst. Gadwawodd hyn yr ymerodraeth i gyd yn nwylo Gratianus. Penododd y cadfridog Hispanaidd Flavius Theodosius fel ymerawdwr yn y dwyrain.

Am rai blynyddoedd teyrnasodd Gratianus yn llwyddiannus ond yn raddol aeth i ddiogi a rhoi ei egni i ddadleuon crefyddol a gwleidyddol. Daeth y cadfrigog Ffrancaidd Merobaudes ac esgob Milan Ambrosius i gael dylanwad mawr drosto. Gwrthododd Gratianus deitlau paganaidd traddodiadol ymerawdwr Rhufain megis Pontifex Maximus a cafodd wared ar Allor Buddugoliaeth o Senedd. Yn ystod ei deyrnasiad daeth Cristionogaeth yn brif grefydd pob rhan o'r ymerodraeth, a gwnaeth seremoniau paganaidd yn anghyfreithlon yn Rhufain.

Daeth Gratianus yn amhoblogaidd ymysg y fyddin trwy gymeryd corff o Alaniaid i'w wasanaeth personol ac ymddangos ei hun mewn gwisg rhyfelwr. Gwrthryfelodd y cadfridog Magnus Maximus Macsen Wledig a daeth a byddin fawr o Brydain i Gâl. Roedd Gratianus yn ei ddisgwyl ym Mharis, ond bradychwyd ef gan lywodraethwr y ddinas a'i ladd ar y 25 Awst 383.