Wicipedia:Y Caffi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 340:
::::::::: [[Defnyddiwr:Sian EJ|Sian EJ]] [[Defnyddiwr:Jason.nlw|Jason.nlw]] [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] [[Defnyddiwr:Dafyddt|Dafyddt]] Dim yn credu byddai'r drefn Seisnig o beidio cyhoeddi ychydig o erthyglau cyntaf defnyddwyr newydd cyn eu hadolygu gan ddefnyddiwr profiadol yn broblem i sesiynau hyfforddi / golygathonau. O herwydd eu natur bydd sesiynau hyfforddi a golygathonau yn cael eu harwain gan ddefnyddiwr profiadol. Byddwn yn disgwyl byddai adolygu cyfraniadau defnyddwyr newydd dan hyfforddiant / mewn golygathon yn rhan hanfodol o'r gweithgareddau. Yr unig broblem rwy'n rhagweld yw sicrhau bod cyhoeddi neu ymateb i erthygl newydd yn brydlon, ac na fydd erthyglau newydd yn eistedd mewn deorfa am ddyddiau lawer. Bydd raid wrth drefn i sicrhau nad yw hynny'n digwydd [[Defnyddiwr:AlwynapHuw|AlwynapHuw]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:AlwynapHuw|sgwrs]]) 15:00, 17 Ionawr 2021 (UTC)
:::::::::: [[Defnyddiwr:Sian EJ|Sian EJ]] [[Defnyddiwr:AlwynapHuw|AlwynapHuw]] [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] [[Defnyddiwr:Dafyddt|Dafyddt]]. Y ffordd mae'r Wici Saesneg wedi delio efo'r digwyddiadau, yw sicrhau bod gan hyfforddwyr yr hawl i neud (Autoconfirm) efo defnyddwyr newydd er mwyn iddyn nhw gyhoeddi ar unwaith, o dan ofal olygydd profiadol. Credu bod hyn yn bwysig er mwyn i bobol cael y profiad llawn o gyfrannu i Wici mewn digwyddiad. Bydd e'n neis gweld system debyg ar CY os rydym yn mynd lawr y llwybr yna. Ond cytuno bod angen i ni wneud yn siŵr bod y gallu efo ni wedyn i gymeradwyo cyfraniadau o bell gan ddefnyddwyr newydd. Y cwestiwn cyntaf rili yw, a fydd hyn yn fwy o waith na chael gwared â fandaliaeth gan gyfranwyr sydd newydd greu cyfrif? - oes na llawer o fandaliaeth, neu erthyglau gwael yn dod o defnyddwyr cofrestredig newydd? [[Defnyddiwr:Jason.nlw|Jason.nlw]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Jason.nlw|sgwrs]]) 11:01, 18 Ionawr 2021 (UTC)
:::::::::::Yn ôl ar ddechrau'r drafodaeth hon, roeddwn i'n meddwl tybed a oedd hi'n bosibl atal defnyddwyr anhysbys rhag creu erthyglau. Mae'r ddadl wedi ymestyn ychydig ers hynny. Aeth fy syniad cyn belled â hynny mewn gwirionedd: mae erthyglau newydd gan ddefnyddwyr anhysbys bron bob amser naill ai'n fandaliaeth bur, neu'n erthyglau sydd bron yn ddi-werth. (Efallai nad yw pwnc yr erthygl yn ddi-werth, wrth gwrs, ond mae cael yr erthygl yn gorfodi defnyddwyr cydwybodol i dreulio amser yn gwneud y gwaith go iawn.) Mae hi mor hawdd i unrhyw ffwl â ffôn clyfar ddangos ei hun i'w ffrindiau trwy greu erthyglau gwirion. Mae hynny wedi bod yn digwydd y bore yma. Heddiw roedd y peth yn wirion; weithiau gall fod yn wirioneddol sarhaus. Ni fyddai mynnu cofrestru yn atal yr holl broblemau, ond byddai'n ddechrau. --[[Defnyddiwr:Craigysgafn|Craigysgafn]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Craigysgafn|sgwrs]]) 11:20, 21 Ionawr 2021 (UTC)
 
== Categoriau ar Comin ==