Llywelyn2000

Joined 30 Hydref 2007
 
==Agor drysau==
Dw i'n ymfalchio i mi gnocio drws, ac i'r drws hwnnw agor yn y sefydliadau canlynol:
[[Llywodraeth Cymru]], [[Sain (Recordiau)]], [[Cyfoeth Naturiol Cymru]], [[Llyfrgell Genedlaethol]], y [[Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru|Comisiwn Brenhinol]], y [[Coleg Cymraeg]], [[S4C]] a [[Cymdeithas Edward Llwyd|Chymdeithas Edward Llwyd]], sydd i gyd yn rhoi eu deunydd yn agored ar Wicipedia a'i chwiorydd. Braf hefyd oedd eistedd rownd y bwrdd yn 2015 gyda'r Eisteddfod Genedlaethol a Menter Mon, a chreu prosiect 'Wici Mon'. Ac yna, ar y cyd, fe luniom gais i CBAC a gwelwyd golygu Wicipedia yn un o heriau'r Fagloriaeth.
 
Sgwennais ychydig am [https://blog.wikimedia.org.uk/2019/05/education-in-wales-and-wikipedia/ ddatblygiad y Wicipedia Cymraeg] (addysg) mewn blog, a chyflwynais rhai [https://www.pscp.tv/w/1YpKkLPNYjMGj cerrig milltir yng Nghynhadledd y Cwlwmtaidd yn Aberystwyth].