Brawdoliaeth y Cyn-Raffaëliaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Pethau| fetchwikidata=ALL}} Grŵp o beintwyr, beirdd a beirniaid celf o Loegr yn y 19g oedd '''Brawdoliaeth y Cyn-Raffaëliaid''' (Saesneg: ''Pre-Raphae...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
Sefydlwyd y grŵp ym [[1848]] gan [[William Holman Hunt]], [[John Everett Millais]], [[Dante Gabriel Rossetti]], [[William Michael Rossetti]], [[James Collinson]], [[Frederic George Stephens]] a [[Thomas Woolner]]. Seiliwyd y "Frawdoliaeth" gan ei saith aelod ar y mudiad [[Nasareaidd]], sef grŵp o peintwyr o ddechrau'r 19g yn [[Awstria]] a'r [[Almaen]] a oedd wedi gobeithio adfer gwerthoedd ysbrydol i gelf, ac a edrychodd am ysbrydoliaeth mewn artistiaid yr Oesoedd Canol diweddarach a'r Dadeni cynnar.
 
Dim ond cysylltiad rhydd oedd y Frawdoliaeth erioed, a rhannwyd ei hegwyddorion gan artistiaid eraill yr oes, gan gynnwys [[Ford Madox Brown]], [[Arthur Hughes (arlunydd)|Arthur Hughes]] a [[Marie Spartali Stillman]]. Ymhlith dilynwyr diweddarach yr egwyddorion hynny oedd [[Edward Burne-Jones]], [[William Morris]] a [[John William Waterhouse]].
 
Ymdrechodd y grŵp i ddychwelyd at fanylion toreithiog, lliwiau dwys a chyfansoddiadau cymhleth celf Eidalaidd y 15g. Gwrthodasant yr hyn yr oeddent yn ei ystyried fel y dull mecanistig a fabwysiadwyd gan artistiaid a ddilynodd [[Raffaello Sanzio|Raffael]] a [[Michelangelo]]. Roeddent yn credu bod ystumiau Clasurol a chyfansoddiadau cain Raffael yn benodol wedi bod yn ddylanwad llygredig ar y ffordd academaidd y cafodd peintwyr eu hyfforddi, a dyna pam y mabwysiadwyd yr enw "Cyn-Raffaëlaid". Roedd ganddynt gysylltiad agos â syniadau’r beirniad celf [[John Ruskin]].