Cynffon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Torvalu4 (sgwrs | cyfraniadau)
Torvalu4 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Cynffon''' yw'r gair a ddefnyddir i ddisgrifio y rhan olaf o gorff [[anifail]], yn arbennig rhan ystwyth sydd wedi ei gysylltu i ben ôl corff yr anifail.
 
Mae gan y rhan fwyaf o [[aderyn|adar]] a [[pysgodyn|physgod]] gynffon, er engraifft. Mae cynffon bluog (a elwir colen) gan adar sydd yn eu cynorthwyo i hedfan, ar y llaw arall mae cynffon pysgodyn (h.y. yr asgell gynffonnol) yn ei helpu i nofio. Mae [[gwartheg]] a [[ceffyl|cheffylau]] yn ysgwyd eu cynffon i fwrw pryfed oddi ar eu cyrff. Pan fo [[ci]] yn ysgwyd yn siglo ei gynffon mae'n arwydd ei fod yn hapus, ond mae [[cath]] yn siglo ei chynffon pan mae hi mewn tymer ddrwg. Bydd y [[gwiwer|wiwer]] er enghraifft yn cyrlio ei chynffon amdani er mwyn ei chadw yn gynnes. Mae cathod yn gwneud hyn hefyd. Mae rhai mathau o [[mwnci|fwnciod]] yn hongian wrth eu cynffonnau.
 
==Oriel delweddau==