Cymdeithas Bêl-droed Yr Alban: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Gwybodlen Wicidata using AWB
BDim crynodeb golygu
Llinell 15:
|Vice-President = Rod Petrie
}}
Y '''Scottish Football Association''' (a elwir hefyd yn yr '''SFA''' a'r '''Scottish FA'''; [[Gaeleg]]: ''Comann Ball-coise na h-Alba''; [[Sgoteg]]: ''Scots Fitbaw Association'') yw corff llywodraethu [[pêl-droed]] yn [[yr Alban]] ac mae'n gyfrifol yn y pen draw am y rheolaeth a datblygu pêl-droed yn y wlad. Mae aelodau'r SFA yn cynnwys clybiau yn yr Alban, cymdeithasau cenedlaethol cysylltiedig yn ogystal â chymdeithasau lleol. Fe'i ffurfiwyd ym ar [[13 Mawrth]] [[1873]], sy'n golygu mai hon yw'r ail gymdeithas bêl-droed genedlaethol hynaf yn y byd. Ni ddylid ei ddrysu â'r ''Scottish Football Union'', sef yr enw y cafodd [[Undeb Rygbi'r Alban]] ei adnabod cyn yr 1920au.
 
Mae Cymdeithas Bêl-droed yr Alban yn eistedd ar [[Bwrdd Cymdeithas Bêl-droed Rhyngwladol|Fwrdd Cymdeithas Bêl-droed Rhyngwladol]] ('International Football Association Board') y corff sy'n gyfrifol am ddeddfau'r gêm ac sy'n cynnwys [[Cymdeithas Bêl-droed Cymru|Cymru]], [[Cymdeithas Bêl-droed Lloegr|Lloegr]], [[Cymdeithas Bêl-droed Gogledd Iwerddon|Gogledd Iwerddon]] a [[FIFA]] ac sy'n seilio rheolau'r gêm. Mae'r SFA hefyd yn aelod o [[FIFA]] ac yn aelod sylfaenol o [[UEFA]]. Mae wedi'i leoli ym Mharc Hampden yn [[Glasgow]]. Yn ogystal, mae Amgueddfa Bêl-droed yr Alban wedi'i lleoli yno.