Yr Aes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 12:
}}
 
Ardal fasnachol yng nghanol [[Caerdydd]] yw '''Yr AisAes''' (Saesneg: ''The Hayes''). Mae ar yr heol o'r un enw sy'n arwain i'r de tuag at ochr ddwyreiniol canol y ddinas. Mae'r rhan fwyaf o'r ardal wedi ei neilltuo ar gyfer cerddwyr yn unig ac mae yna far byrbrydau awyr agored.
 
Yn hanesyddol, adeilad mwyaf mawreddog yr ardal yw [[Yr Hen Lyfrgell]], adwaenid gynt fel Llyfrgell ac Amgueddfa Rydd Caerdydd. Roedd yna Ysgol Gwyddoniaeth a Chelf ar y safle hefyd cyn symud yn 1890 i adeiladau newydd [[Prifysgol Caerdydd|Coleg y Brifysgol]] yn Cathays. Defnyddiwyd yr adeilad am bron i ganrif (1882 i 1988) fel ail leoliad i lyfrgell ganolog y ddinas. Agorwyd pedwerydd adeilad parhaol [[Llyfrgell Ganolog Caerdydd]] yn 2009 ar ben gwaelod yr Aes.